Cofgolofn ryfel Bethesda

logo for Bethesda town councilCofgolofn ryfel Bethesda

Codwyd y cofadail hwn ym 1923 i goffáu pobl o Ddyffryn Ogwen a fu farw wrth wasanaethu’n filwrol yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ychwanegwyd enwau’r rhai a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd yn ddiweddarach, mewn blociau cerrig o boptu tŵr y senotaff.

bethesda_war_memorialI ddarllen eu manylion, dewiswch gategori:

Rhyfel Byd Cyntaf

Ail Ryfel Byd

Cyn iddynt listio, chwarelwyr oedd llawer o’r dynion a fu farw. Ni ystyriwyd bod cynhyrchu llechi yn ddigon pwysig i eithrio chwarelwyr rhag gwasanaeth milwrol ar ôl cyflwyno gorfodaeth filwrol ym 1916. Er hynny, cafodd rhai o chwarelwyr Bethesda ganiatâd dros dro i barhau yn eu gwaith oherwydd fod eu mamau gweddw yn dibynnu arnynt am gynhaliaeth.

Ar y bwa metel o flaen y gofgolofn y mae’r geiriau “Er cof am y milwyr”. Cofeb arall oedd hon yn wreiddiol, o flaen Capel Bethesda ac fe’i storiwyd pan gaewyd y capel. Cafodd ei gosod yma yn 2005 ar ôl i reiliau newydd gael eu dylunio a’u gosod, gyda chymorth grant o £250 gan Ymddiriedolaeth y Cofgolofnau Rhyfel.

Cafodd y senotaff ei ddylunio gan RJ Hughes a’i adeiladu gan Richard Williams. Uwchben yr enwau o’r Rhyfel Byd Cyntaf ar y senotaff y mae’r arysgrifen: “Y Rhyfel Mawr 1914-1918. Cofarwydd o edmygedd trigolion Dyffryn Ogwen o aberth y gwŷr dewr hyn o’r ardal a gwympodd dros eu gwlad.”

Ar y gofadail hefyd y mae englyn enwog R Williams Parry:

O gofadail gofidiau – tad a mam
     Tydi mwy drwy’r oesau.
Ddysgi ffordd i ddwys goffhau
     Y rhwyg o golli’r hogiau.

Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa Home Front, Llandudno, i Hazel Pierce, o The History House, ac i Dr Paul Rowlinson am y cyfieithiad

Map

button_tour_StrikesAndRiots-E Navigation previous buttonNavigation next button
Telfords Irish Road Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button