Morglawdd Bae Caerdydd

Morglawdd Bae Caerdydd

Adeiladwyd y morglawdd, sy’n 1.1km o hyd, rhwng 1994 a 1999, ar gost o £220m. Y nod oedd i gronni dŵr o’r afonydd Taf ac Elái, gan greu morlyn o uchder cyson yn lle'r fflatiau llaid a oedd yn ymddangos pan ddisgynnai’r llanw. Roedd pryderon ynghylch colli ardaloedd lle y byddai adar yn bwydo, felly creweyd gwarchodfa gwlyptir yn agos at Westy Dewi Sant ym Mae Caerdydd ac yng Nghasnewydd.

Adeiladwyd arglawdd 800 metr o hyd ar gyfer y morglawdd, gan ddefnyddio creigiau mawr a llenwi bylchau â thywod. Mae'r lagŵn yn cwmpasu ardal o ddau cilomedr sgwâr (200 hectar).

Mae'r morlyn yn ardal ddeniadol ar gyfer cychod hamdden, fel y dengys y cannoedd o gychod sydd wedi’u hangori yn y Bae, ar hyd yr afonydd ac yn y marina ym Mhenarth. Mae digwyddiadau chwaraeon dŵr yn cael eu cynnal yma.

Mae’r morglawdd ei hun yn lwybr cerdded poblogaidd. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn croesi’r morglawdd, fel y mae Llwybr 8 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar ddechrau ei daith hir o Benarth i Gaergybi.

Gyda lefel yr afon Taf bellach yn gyson, cychwynodd gwasanaeth bws ddŵr ar hyd yr afon rhwng Bae Caerdydd a glanfa wrth ymyl Parc Bute, ger Castell Caerdydd.

View Location Map

Gwefan Adwurdod Harbwr Caerdydd

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button