Hen siop fferyllydd, y Trallwng
Arferai rhan o’r adeilad rhestredig hwn, siop Broad Street Stores a’r swyddfa bost yn awr, gael ei rhedeg gan y fferyllydd William Bishop, a gollodd ei fab Charles yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae blaen yr adeilad a’r to yn dyddio o’r 18fed ganrif. Credir bod llawer o’r adeiladwaith mewnol yn hŷn fyth. Rhannwyd y llawr gwaelod yn ddau tan y 1970au, gyda rhif 32 yn dafarn. Rownd y gornel, cafodd yr adeilad ei ymestyn ar hyd New Street yn oddeutu 1830.
Symudodd y Fferyllydd William Bishop o Grantham i’r Trallwng ar ddiwedd y 19eg ganrif i barhau â’r busnes a arferai gael ei redeg gan GE Davies. Roedd ef a’i wraig Margaret a’u plant yn byw uwchben y siop, a oedd yn stocio, ymysg pethau eraill, tonig gwallt a hadau gardd. Weithiau disgrifiai William ei hun fel “fferyllydd amaethyddol” a gwerthai gynhyrchion megis powdr pryfed, eli cynrhon a moddion ceffylau.
Daeth ei fab Charles Trevor Bishop hefyd yn fferyllydd, gan astudio yn Lerpwl a Llundain. Yn 1910 roedd ef a’i gymydog agos Rex Manford ymysg llond llaw o bobl a fynychodd gyfarfod i sefydlu cangen Sir Drefaldwyn o Gymdeithas y Groes Goch, gyda’r nod o baratoi dinasyddion i helpu i ofalu am bobl wael a chlwyfedig pe byddai rhyfel yn dechrau. Pan dorrodd y rhyfel, ymunodd Charles a Rex â’r fyddin a lladdwyd y ddau.
Gwasanaethodd Charles i ddechrau â llu tiriogaethol Corfflu Meddygol y Fyddin Frenhinol. Roedd yn fferyllydd gweinyddu mewn ysbyty ym Malta pan oedd yr ynys yn ganolfan driniaethau i’r holl glwyfedigion yn dilyn ymgais ofer y Cynghreiriaid i ymosod ar Dwrci yn Gallipoli yn 1915. Daeth yn swyddog â Chatrawd Wiltshire yn 1915 ac fe’i lladdwyd mewn brwydr yn Iraq ym mis Mawrth 1917, yn 27 oed. Caiff Lefftenant Charles Bishop ei goffau ar Gofeb Basra ac ar fedd ei rieni yn Eglwys Crist, y Trallwng.
Gyda diolch i Natalie Bass
Cod post: SY21 7RR Map
I barhau â thaith y Trallwng (Powys) yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, trowch i mewn i New Street a dal i fynd ymlaen bron at y man lle mae’r ffordd yn gwyro i’r dde. Mae’r hen orsaf heddlu ar y gornel |