Hen orsaf heddlu, y Trallwng
Hen orsaf heddlu, New Street, y Trallwng
Adeiladwyd yr orsaf heddlu yn 1862 gan Heddlu Sir Drefaldwyn, a ffurfiwyd yn 1841. Mae’n eiddo preifat bellach – mwynhewch yr olygfa o’r giât ond peidiwch â mynd ar y tir.
Roedd ffynnon yn yr orsaf heddlu, ond dechreuodd y dŵr flasu’n amhleserus yn 1882. O edrych yn fanylach, gwelwyd bod carthfos yn arllwys iddi! Costiodd y gwaith trwsio £7.
Yn 1904 argymhellodd y prif gwnstabl y dylid cadw beic yn yr orsaf i’r swyddogion ei ddefnyddio.
Daethpwyd â chorff merch fach tua wythnos oed, wedi’i llofruddio, yma yn 1871. Fe’i canfuwyd mewn cas gobennydd mewn coedwig ger y Trallwng. Dychwelodd rheithgor y cwest ddyfarniad o lofruddiaeth fwriadol gan unigolyn neu unigolion anhysbys.
Ym mis Mehefin 1915 daethpwyd â dau filwr Almaenaidd i orsaf heddlu’r Trallwng ar ôl bod ar ffo am oddeutu 36 awr. Roedd Otto Richart Kirchner yn perthyn i gatrawd o Sacsoni. O gatrawd o Brwsia y daeth Bernhart Johannes Zimpel ac roedd yn 1.9 metr o daldra (6tr 3 modfedd). Daethpwyd â nhw i Brydain fel carcharorion rhyfel a llwyddodd y ddau i ddianc o wersyll cadw yn Amwythig.
Hysbyswyd y trigolion lleol, a chafodd y ddau eu gweld wrth ymyl y Trallwng. Hysbyswyd y Capten Rhys Williams o’r Gwarchodlu Cymreig am 11pm, yn fuan ar ôl iddo fod yn ciniawa â’r Capten Gerald Dugdale. Benthycodd gar a gyrrwr ei westeiwr i ddod o hyd i’r Almaenwyr. Pan ddaliodd nhw, ei unig arf oedd ei wregys lledr!
Ni fu’r Almaenwyr yn hir yn cyfaddef mai nhw oedd y carcharorion ar ffo. Yng ngorsaf yr heddlu, fe wnaethant wagio o’u pocedi a’u bagiau raseli, sebon, siocled a selsig, pethau a anfonwyd iddynt yn y gwersyll yn ôl bob tebyg. Rhoddwyd te a bara a menyn iddynt, ac fe’u bwytasant yn awchus, cyn cael hoe fechan yng nghelloedd yr heddlu. Pan yrrwyd nhw ymaith, taflodd Zimpel ei freichiau i’r awyr mewn dicter pan glywodd eu bod yn dychwelyd i’r gwersyll.
Bedwar mis yn ddiweddarach, cafodd Capten Williams, o Miskin Manor, ger Llantrisant, ei anafu mewn ymosodiad ar leoliadau Almaenig ger Loos, Gwlad Belg.
Cod post: SY21 7SF Map
I barhau â thaith y Trallwng (Powys) yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gadewch New Steet a throi i’r dde. Dilynwch Broad Steet a Stryd Hafren at y gylchfan. Saif yr Hen Orsaf yr ochr draw i’r maes parcio ar y dde |