Yr Hen Orsaf, y Trallwng

PWMP logo sign-out

Yr Hen Orsaf, y Trallwng

Arferai trenau adael o’r tu allan i’r adeilad “Dadeni Ffrengig” hwn. Mae’r siop yn ymestyn i blatfform yr hen orsaf, dan y canopi a gadwai’r teithwyr yn sych. Mae’r lluniau, gan Peter Clark, yn dangos trenau ager ar bwys yr adeilad yn 1963 a 1965.

Photo of Welshpool station in 1963Yn yr adeilad roedd cyfleusterau ar gyfer teithwyr a staff yr orsaf. Dyma hefyd bencadlys Rheilffordd Croesoswallt a’r Drenewydd (O&N) o fis Chwefror 1860 tan Ionawr 1862, pan symudodd y pencadlys i Lundain. Dechreuodd y trenau redeg rhwng y Trallwng a Chroesoswallt drwy Four Crosses ym mis Mai 1860.

Yn 1863, ffurfiodd yr O&N a chwmnïau eraill Reilffyrdd y Cambrian, a ddaeth yn rhan o Reilffordd Fawr y Gorllewin (GWR) yn 1923. O 1903 ymlaen, ceid cyfnewidfa nwyddau i’r dwyrain o orsaf y Trallwng gyda threnau lein fach Rheilffordd Ysgafn y Trallwng a Llanfair, sy’n awr yn daith hardd, boblogaidd i ymwelwyr.

Yn 1992 agorodd gorsaf lai i’r de-ddwyrain, gan alluogi i ffordd osgoi’r Trallwng gael ei hadeiladu wrth ochr adeilad yr hen orsaf. Agorodd y ffordd osgoi ym mis Gorffennaf 1993. Cafwyd pedair damwain yn y pum diwrnod cyntaf.

Photo of Welshpool station in 1965Maes parcio’r Hen Orsaf oedd blaen-gwrt yr orsaf. Casglodd criw o bobl yno ym mis Hydref 1916 ar gyfer derbyn corff Is-iarll Clive, etifedd ystâd Castell Powys. Roedd ei deulu wedi trefnu iddo gael ei gludo o Ffrynt y Gorllewin i Lundain am lawdriniaethau i dynnu bwled, ond bu farw yn 23 oed. Teithiodd ei rieni, ei frawd Mervyn – a fyddai’n marw yn yr Ail Ryfel Byd – ac 16 o ddrymwyr o’r Gwarchodlu Cymreig ac elor-gludwyr, gyda’r corff ar y trên o orsaf Paddington Llundain. Chwaraeodd band Troedfilwyr Ysgafn Swydd Amwythig y Brenin y Dead March wrth i’r corff deithio o orsaf y Trallwng i Eglwys Crist ar gar gynau a dynnwyd gan chwech o geffylau du.

Fe wnaeth Rheilffyrdd y Cambrian golli dros 50 o’i weithwyr yn y rhyfel gan gynnwys y cludwr nwyddau Edward Henry Owen, yr oedd ei rieni yn byw yn St Mary’s Place, y Trallwng. Bu farw, yn 26 oed, yn Ffrainc ym mis Medi 1918.

Bum mis ar ôl diwedd y rhyfel, cludwyd corff y Baner-Ringyll Joseph Groom DCM, 25 oed, gydag anrhydedd milwrol llawn i orsaf y Trallwng o westy yn y dref, lle’r oedd ar wyliau â’i wraig pan fu farw o dwymyn y dŵr du a gafodd wrth wasanaethu yn y rhyfel yn Affrica. Roedd wedi priodi Edith De Lonra o Aberhonddu yn ystod ei gyfnod adref yn 1917. Cludwyd ei gorff ar y trên i Aberhonddu i’w gladdu.

Gyda diolch i Peter Clark

Cod post: SY21 7AY    Map
 

I barhau â thaith y Trallwng (Powys) yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, dilynwch Stryd Hafren i ganol y dref, gan groesi dros y gamlas. Mae’r Royal Oak ar y dde cyn y goleuadau traffig
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button