Hen felin ŷd, Aberdaron

Hen felin ŷd, Aberdaron

aberdaron_corn_mill_wheel

Yr adeilad carreg, i lawr ger cyffordd Llwybr Arfordir Cymru a ffordd y B4413 oedd y felin ŷd, neu’r “Felin” yn lleol. Mae’r llwybr yn parhau i ddilyn ffin pwll bach y felin, sydd i'w weld yn y llun isod.

Os ydych chi newydd sganio'r codau QR ar y postyn, rydych chi bellach yn sefyll fymryn yn uwch na'r pwynt lle’r oedd y dŵr yn cyrraedd o’r olwyn ddŵr (sydd wedi’i thynnu oddi yno ers amser maith). Mae’r llun ar y dde (trwy garedigrwydd Rhiw.com) yn dangos lleoliad yr olwyn rhwng y felin a wal y briffordd.

Mae grŵp cymunedol Melin Daron wedi cychwyn prosiect i adfer yr adeilad fel melin sy’n gweithio - gweler y ddolen i wefan y grŵp isod.

Roedd y felin mewn bodolaeth erbyn y 1840au, ond mae'n debyg fod rhan wreiddiol y felin wedi cael ei godi lawer ynghynt. Mae cofnod o’r 13eg ganrif yn cyfeirio at felin yn Aberdaron.

O 1843 roedd y felin ŷd yn eiddo i'r Arglwydd Penrhyn, a wnaeth ei ffortiwn o ddefnyddio caethweision yn Jamaica a chwareli llechi gogledd Cymru. Ym mis Rhagfyr 1907 gwerthodd lawer o'i eiddo yn Aberdaron mewn ocsiwn, gan gynnwys y felin ŷd.

Câi’r felin ei phweru gan ddŵr o Afon Daron, sy’n llifo tua 500 metr i’r dwyrain o'r felin. Rhedai’r dŵr drwy sianel gul yn gyfochrog, bron, â'r afon. Mae'r llwybr cyhoeddus a oedd yn rhedeg ochr yn ochr â’r sianel bellach yn ffurfio rhan o Lwybr Arfordir Cymru i’r dwyrain o’r fan hon. Mae hanes yn esbonio pam fod y rhan hon o'r llwybr yn anarferol o wastad!

aberdaron_corn_mill_pondMae enw’r afon yn benthyg ei hun i enw Aberdaron. Ystyr Aber yw ceg afon. Mae sôn mai Daron oedd duwies y goeden dderw. Mae Dâr yn hen enw Cymraeg am dderwen, ac mae’r enw i'w gael hefyd yn Aberdâr yng nghymoedd de Cymru. Mewn Cymraeg modern, gelwir derw yn derw, dâr, deri a derwen.

Cod post : LL53 8BE    Map

Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, am yr wybodaeth am enw'r lle. Hefyd AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad

Gwefan Melin Daron – mwy a hanes a manylion yr atgyweirio

Mwy o hen luniau Aberdaron – gwefan Rhiw.com

Gwefan AHNE Llŷn 

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button