Safle tramffordd manganîs, Porth Ysgo, ger Aberdaron

sign-out

Safle tramffordd manganîs, Porth Ysgo, ger Aberdaron

abersoch_porth_ysgo_jetty

Ar un adeg roedd dyffryn bach tawel Nant y Gadwen yn ferw o brysurdeb diwydiannol, pan gâi manganîs gwerthfawr ei gloddio yn uwch i fyny’r llethrau. Os ydych chi newydd sganio'r codau QR, gwelwch lwybr y dramffordd - boncyn o laswellt ar ochr y bryn - wrth i chi ddilyn Llwybr Arfordir Cymru ar ochr arall y nant.

Dechreuwyd ar y mwyngloddio tua 1827. Yn ystod y 19eg ganrif, cludwyd y mwyn ar gefn asynnod i Borth Cadlan (i'r gorllewin) er mwyn ei lwytho ar y llongau hwylio bach a aeth ag ef i Ellesmere Port, Sir Gaer. Fe'i defnyddiwyd i gynhyrchu gwydr a channydd. Yn ddiweddarach fe’i defnyddiwyd i wneud dur yn fwy caled, ac bu cynydd yn y mwyngloddio ar ddiwedd y 19eg ganrif.

Ym 1903 agorodd y British Manganese Co. a’r North Wales Manganese Co. fwyngloddiau cyfagos ar Fynydd Rhiw. Adroddwyd ym 1904 bod glanfa yn cael ei hadeiladu ar y traeth ynghyd â thramffordd gyswllt. Roedd cannoedd o dunelli o fanganîs yn cael eu cludo oddi yno bob wythnos.

abersoch_manganese_tramroad_porth_ysgo

Roedd wagenni tramffordd yn cludo'r mwyn i lanfa Porth Ysgo ar inclein serth wedi’i reoli gan geblau ynghlwm wrth injan weindio. Roedd pwysau wagenni llawn yn tynnu wagenni gweigion ar y trac cyfochrog. Mae’r lluniau (trwy garedigrwydd Rhiw.com) yn dangos y lanfa a thrac y dramffordd wrth ymyl Nant y Gadwen.

Gwnaeth y cyngor lleol gŵyn ym 1906 bod cledrau’r dramffordd wedi’u gosod ar draws ffyrdd heb Ddeddf Seneddol. Cytunodd y perchnogion i roi £100 mewn cronfa i dalu costau’r cyngor pe bai damwain yn cael ei hachosi gan y croesfannau.

Codwyd glanfa arall ym Mhorth Neigwl (i’r dwyrain), er mwyn cludo mwyn iddi ar rywbeth a ymdebygai i lifft sgïo. Ym 1904 roedd y Ganda, stemar o Wlad Belg, wrthi’n llwytho manganîs i'w gludo i Antwerp, pan gododd corwynt. Roedd rhaid symud y llong, 650 tunnell, i ddyfroedd cysgodol ger Abersoch, ond collwyd gyriant y stemar oherwydd i raff fynd yn sownd yn y propelar. Chwythwyd y llong tua’r lan. Neidiodd criw y llong, 13 ohonynt, i’r bad achub, ond bu’n rhaid iddynt nofio i’r lan wedi iddo droi drosodd yn y tonnau. Cafodd y llong ei dryllio ger y lanfa.

Defnyddiwyd glanfa Porth Ysgo tan 1927. Daeth mwyngloddio manganîs yn yr ardal i ben ym 1945.

Gyda diolch i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad

Map

Gwefan Rhiw – manylion y gwaith manganîs, yn cynnwys atgofion gweithwyr

Gwefan AHNE Llŷn

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button