Cyn Glasgow House, nawr Pete’s Eats, Llanberis
Cyn Glasgow House, nawr Pete’s Eats, Llanberis
Mae Pete’s Eats yn cyfuno dwy siop, sef Glasgow House (ar y gongl fel groser) ac Alcan House a oedd yn gwerthu taclau alwminiwm. Roedd hi’n boblogaidd yn Llanberis ar y pryd i fod yn Seisnigaidd. Roedd yna amryw enw tŷ Saesneg ac mae na sawl ‘House ...’ ar hyd y stryd fawr. Gwelir yr hen lun o Glasgow House yma drwy gwrteisi Gareth Roberts, Menter Fachwen.
Yn anarferol, dynes ac nid dyn, sef Harriet Hume, oedd perchennog Glasgow House a sawl menter lleol arall. Roedd yn ferch i’r fferyllydd sef Joseph Hobley. Yn 1883 priododd James Hume, capten llong. Roedd y pâr yn berchen ar sawl eiddo gan gynnwys Glasgow House. Hi oedd yn rhedeg y siop yn ystod cyfnodau hir ei gŵr ar y môr.
Ef oedd y capten cyntaf o’r llong ddur tri mast, y Conway. Harriet a deithiodd i’r iard longau yn Dumbarton, Glasgow i’w henwi ar ei lansiad yn 1896. Ond yn 1910 daeth James i gyfnod du tra’n 57 mlwydd oed gan na allodd gael gwaith. Ar ôl wyth mis yn ddi-waith dywedodd wrth ei ffrindiau yn Lerpwl ei fod am fynd am dro. Cafwyd ei gorff yn Noc Canada.
Parhaodd Harriet yn llwyddiannus mewn busnes. Roedd ganddi hi a’i merch, Margaretta, gaffi a gwesty yn Dol Peris yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu farw yno yn 1946 gan adael dros £740 (tua £31,000 heddiw) i Margaretta.
Roedd Griffith Davies o Alcan House yn un o’r heddlu gwirfoddol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cymhwysodd ei ferch Annie fel bydwraig yn Llundain yn 1915.
Agorwyd Pete’s Eats yma yn 1978 gan Peter Norton. Daeth yn enwog ymysg dringwyr a cherddwyr mynydd. Fe’i etholwyd yn gaffi’r flwyddyn gan y cylchgrawn The Great Outdoors yn 2016.
Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o The History House, a Gareth Roberts, o Menter Fachwen. Hefyd i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL55 4EU Gweld map lleoliad