Dol Peris, Llanberis

Dol Peris, Llanberis

Roedd yr adeilad, nawr yn westy, yn gartref i John Davies, y rheolwr drwg-enwog ar chwarel Dinorwig.

Disgrifiwyd Dol Peris yn 1857 fel un o sawl lefydd gwych a adeiladwyd yn ddiweddar i wahodd ymwelwyr. Ond yn 1861 roedd John Davies a’i deulu’n byw yma tra roedd yn glerc y chwarel. Roedd yn aelod gweithgar yn y gymuned. Er enghraifft, yn 1864 fe farnodd ar ras un rhwyf ar y llyn, rhan o ddathliad cychwyn adeiladu Rheilffordd Caernarfon a Llanberis.

Dyn uchelgeisiol ydoedd, ac yn 1874 fe’i apwyntiwyd yn reolwr lleol chwarel Dinorwig a’i symud i Blue Peris, sef cartref rheolwyr chwarel. Mwy na thebyg, dewis y chwarelwyr fyddai ei fod wedi aros yn Llanberis gan iddo fod y rheolwr mwyaf amhoblogaidd erioed.

dol_peris_richard_and_jane_hughes

Wedi i’r teulu’r Davies adael Dol Peris yn 1874, symudodd Richard Hughes a’i deulu i mewn. Fferyllydd ac yna gweinidog y Bedyddwyr oedd Richard. Rhaid fod un o’i ferched, Katharina, braidd yn ddireidus gan iddi ysgythru ei henw ar sil ffenestr y lolfa. Mae’n dal yna gan gynnwys ei chamsillafiad o’i chyfenw ‘Hughus’!

Fe fyddai pobl yn casglu planhigion meddygol o’r ddôl (di-adeilad bryd hynny). Daeth y bont dros Afon Goch i’w hadnabod fel ‘Pont Hughes Drygîs’. Drygîs ar y pryd oedd yr enw am gemist neu ffarmasist. Erbyn heddiw mae’r bont yn cael yr enw ‘Pont is drygist’ – sut mae enwau’n newid mewn tair cenhedlaeth!

Erbyn 1880 roedd Richard yn defnyddio Dol Peris fel gwesty. Fe’i gwelir yn y llun yn ei ardd gyda’i wraig Jane ac un o’i ferched. Erbyn 1881 lletyodd y Parchedig William Edwards, rheithor Llanberis a’i deulu yma.

Erbyn 1907 fe symudodd yr Huwsiaid allan ac fe wahanwyd y tŷ i letua dau deulu newydd-briod lleol. Y perchnogion rŵan oedd y Captain Hume a’i wraig Harriet, sef merch y fferyllydd (Drygîs) Joseph Hobley. Fe foddodd Joseph yn Lerpwl yn 1910 ond fe barhaodd y wraig mewn busnes yn llwyddiannus. Roedd ei mentrau’n cynnwys siop Glasgow House, lle y mae Pete’s Eats heddiw.

Bu Harriet a’i merch Margaret yn byw yn Dol Peris erbyn yr Ail Ryfel Byd gan redeg caffi a llogi ystafelloedd i ymwelwyr. 2 gini (tua £118 hediw) yr wythnos oedd y gost.

Fe adnewyddwyd y tŷ yn 2013 gan berchnogion newydd, sef Phill a Lisa George. Ddarganfyddwyd hen lefydd tân ac yn y seler y clychau i alw’r gweision. Rhoddwyd llechi ar y dalcen ddeheuol gan adlewyrchu’r dull gwreiddiol o warchod rhag glaw.

Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o The History House, a Ken Jones, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL55 4HA    Gweld map lleoliad

Gwefan Dol Peris - gwesty hunan arlwyo

button-tour-slate-trail previous page in tournext page in tour