Plas Coch, Llanberis

Plas Coch, Stryd Fawr, Llanberis

Tŷ tref sylweddol a adeiladwyd yng ngwagedd dôl Peris yw Plas Coch. Roedd yn sefyll erbyn 1856 pan roedd Ellen Evans yn byw yma a phriododd a John Williams chwarelwr lleol yr un flwyddyn.

Roedd mewn llecyn sylweddol ei faint gyda pherllan i’r de o’r tŷ ac fe fu ychydig goed ffrwythau yn weddill yno tan yn ddiweddar yn 2018. Ond codwyd adeiladau a thai ar y rhan fwyaf o’r tir. Doedd Llanberis ddim yn bod ar y pryd a Coed y Ddol oedd enw’r pentref bryd hynny.

Old photo of Plas CochBu i  Evan Evan Evans, tad Ellen ffynnu ar gefn llwyddiant twristiaeth a ‘r diwydiant llechi. Roedd yn berchen ar siop groser a siop ddillad. Daeth Glan Eilian, cartref ei deulu, yn Evans’s Commercial Temperance Hotel. Mwy na thebyg roedd gŵr Ellen, sef John o deulu cefnog gan fod ei dad yn dafarnwr.

Symudodd Ellen o Plas Coch i fyw gyda John yn Bryn Du cyfagos ond erbyn 1871 roedd y ddau yn ôl yma gyda’i saith plentyn, gwas a lletywr (gweinidog Methodistaidd). Bu iddynt 10 o blant i gyd ond bu farw un yn faban.

Erbyn 1881 rhannwyd Plas Coch a daeth teulu arall i fyw yma sef y Rowlands.

Yn 1902 fe ddathlodd 700 aelod o’r Gymdeithas Oddfellows eu pumed ar hugain dathliad gyda chinio mewn pabell ar dir John Williams Plas Coch. Sefydliad er budd Cymdeithas heb gyfraniad na thuedd boliticaidd ydi’r Oddfellows sydd yn bod hyd heddiw. Roedd yn arbennig yn gwarchod yr anghenus a’r difreintiedig drwy stormydd bywyd ac yn talu at anghenion yr argyfyngus. Rhaid ymaelodi’n rhad i gael y cymorth.

Bu farw John yn 74, yn Ionawr 19067 ac Ellen saith mis wedyn. Bu eu merch, Jennie, yn nyrs am dair mlynedd yn Ffrainc drwy’r Rhyfel Mawr. Fel sawl arall yn y cyfnod, cafodd y diciâu yn lladdol yn Ionawr 1919 ac fe’i claddwyd a seremoni filwrol yn Le Havre. Cliciwch yma i gael ein tudalen goffa.

Bu un o’u meibion farw yn capten llong yn Affrica. Bu farw un arall yn Winsconsin, UDA. Cafodd eu mab Robert ei apwyntio’n organydd yn eglwys Sant Dewi, Lerpwl, yn 1899. Ar y pryd roedd Lerpwl mor Gymreig a llawer tref yng Nghymru. 

Organydd mewn capel arall oedd mab arall, sef Orwig. Fe oedd yng nghapel Moriah, Caernarfon, ac yn 1910 cychwynnodd ddysgu ‘elfennau cerddoriaeth’ yn ysgol elfennol Dolbadarn.

Fe arweiniodd William Williams Plas Coch gor bechgyn mewn cystadleuaeth yn Capel Coch, Llanberis, yn 1881.

Roedd Morris Williams o Plas Coch yn bianydd talentog, a mawr oedd y galw arno i gystadlaethau a chyngherddau. Fe roddodd ei wasanaeth i gyngerdd yn 1889 ar gyfer codi arian i gefnogi Owen Williams o Nant Peris a gollodd ei goes yn y chwarel yn Nantlle ac a gyflwynwyd £14 iddo.

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post : LL55 4HB    Map

Gwefan gwesty Plas Coch 

button-tour-slate-trail previous page in tournext page in tour