Gwesty’r Dolbadarn, Llanberis
Yn 1805 disgrifiwyd Llanberis fel lle a dau fwthyn “mwyaf truenus” a dim ond dau “dy goddefol” yn cynnig lletygarwch. Yn fuan daeth gwestai moethus fel hwn. Dyma’r gwesty a’r ardd yn yr 1920au. .
Teulu’r Evans oedd ceidwaid y gwesty yn y 1830au. Ar ôl marwolaeth William Evans yn 1838, daeth ei weddw Mary a’r mab yng nghyfraith i redeg y lle. Fe fyddai Edward Humphreys yn rhedeg teithiau cerbyd o’r enw The Snowdonian Tourist. Fe ai un o’r teithiau o Gaernarfon i Llandudno drwy ymweld a’r Rhaeadr Ewynnol, Llanrwst a Trefriw, gan gymryd dros saith awr. Bu farw yn 1895 gan adael ffortiwn fach o tua hanner miliwn yn nhermau heddiw.
Yn 1857 benthycwyd harmoniwm y gwesty (organ fach a megin troed) a’i chario i’r ysgol newydd yn Deiniolen am gyngerdd mawreddog.
O 1860au, bu i’r perchennog newydd, Robert Roberts, gadw cychod ar y llun ar gyfer twristiaid a pharatoi tywyswyr a cheffylau ar gyfer yr Wyddfa. Yn 1911 roedd yma 23 llofft. Yn 1939 bu i dri brawd o Lerpwl (Charles, 10, William, 8, a Frederick Black, 6) aros yma, mwy na thebyg fel faciwis o’r rhyfel.
Ym Medi 1846 bu un o’r gwesteion, y Parch Henry Starr, 32, curad o All Saints, Northampton, ddiflannu tra allan yn cerdded y mynyddoedd. Ar ôl pythefnos di-lythyr daeth ei fam a’i chwaer, Emily, i’r gwesty yn llawn pryder. Chwiliodd dros 900 o ddynion amdano ond doedd dim arwydd am naw mis ac yna cafwyd ei siôl dan Moel Cynghorion.
Chwiliodd Edward Humphreys a dau arall ardal y siôl gan ddarganfod ei weddillion ac fe’i dygwyd i’r gwesty hwn.
Dwysáu’r dirgelwch. Cynhaliwyd y cwest yma ond ni chafodd rhai tystion eu galw, e.e. Emily Starr (ei chwaer) gyda thystiolaeth feddygol am ei esgyrn. Y rheithfarn oedd i Henry farw heb anfadwaith. Cred Emily oedd i’r rheithfarn fod yn anghywir er mwyn gwarchod y busnesau twristaidd.
Ar yr wythfed o Fehefin 1847, carwyd weddillion Henry gan 12 chwarelwr i’w gladdu ym mynwent Nant Peris. Roedd Mary ac Edward o’r gwesty ymysg y galarwyr. Ysgrifennodd Emily lyfr am ei brawd a’i “weddillion”. Tanysgrifiwyd y llyfr gan sawl AS (MP) a chan y mathemategydd Yr Arglwyddes Noel Byron (gwraig y bardd yr Arglwydd Byron).
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Còd post: LL55 4SU Gweld Map Lleoliad
Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o The History House. Ffynonellau yn cynnwys: ‘A Perilous Playground’ gan Bob Maslen-Jones, Wrecsam, 2004