Cymraeg Former Helwick lightship

Cyn-oleulong Helwick, Harbour Drive

Pwyswch i glywed darlleniad o'r dudalen gan RNIB Cymru
Neu, lawrlwythwch mp3 (931KB)

Adeiladwyd y goleulong hon, Light Vessel 14, yn Dartmouth, Dyfnaint, ym 1953. Angorwyd goleulongau wrth fanciau tywod ac ardaloedd eraill o ddŵr bas, lle’r oeddynt yn fodd rhatach a mwy ymarferol na goleudai i rybuddio morwyr o beryglon allan ar y môr. Doedd ganddynt ddim peiriannau ar gyfer symud ei hunain. Fe’i tynnwyd i’w hangorfeydd.

Angorodd Trinity House, sy’n gofalu am oleudai’r DU, Light Vessel 14 yn Kentish Knock, yn aber y Tafwys. Yn dilyn hynny angorwyd y goleulong mewn lleoliadau eraill gan gynnwys ger Cowes (Ynys Wyth), yn Scarweather (Bae Abertawe) ac ym Mae Morecambe. Roedd wedi’i lleoli oddi ar Rhosili, Gwyr, i rybuddio am fygythiad anweledig banc tywod Helwick o 1984 hyd ddiwedd ei gwasanaeth ym 1989.

Ychwanegwyd llwyfan glanio i Light Vessel 14 ym 1975 i alluogi staff i deithio at y llong ac yn ôl mewn hofrennydd. Roedd tîm o saith o bobl yn byw ar y llong, yn gofalu am y lamp ac offer arall.

Yn 1993 prynwyd Light Vessel 14 a’i hadfer, gyda chymorth Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd. Fel Goleulong 2000, roedd yn gweithredu fel Canolfan Gristnogol ac atyniad twristiaid poblogaidd yn y Bae tan 2013.

Côd post: CF10 4PA

Diolch i RNIB Cymru am fersiwn sain y dudalen hon