Hen ddoc llechi, Y Felinheli

sign-out

Rhan ogleddol o’r Marina yn Port Dinorwig oedd y lle trosglwyddwyd llechi chwarel Dinorwig o wagenni rheilffordd i longau. Mae’r ardal yn ymestyn am hanner cilomedr ar hyd beth oedd yn wreiddiol yn gilfach o afon Menai, ac mae mor gyflawn fel ei fod wedi'i restru yn Radd II.

Dechreuodd teulu Assheton-Smyth ddatblygu’r doc yma yn y 1790au. Roedden nhw'n byw ym Mharc y Faenol (Y Faenol erbyn hyn), i'r gogledd o'r Felinheli. Roedd eu hystâd yn cynnwys chwarel lechi enfawr Dinorwig, ger Llanberis.

Dangosir llun y doc c1875 yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r doc a welwn yma heddiw yn dyddio'n bennaf o ehangiad a gwblhawyd yn 1902. Mae'n debyg bod gwaith carreg o'r 1820au wedi goroesi ac i’w weld ar yr ochr ger y môr. Roedd yr ehangiad yn cynnwys loc newydd, i alluogi llongau i symud i mewn ac allan o'r doc waeth bynnag y llanw.

Photo of Y Felinheli dock Port Dinorwic c.1875Ymhellach i fyny'r afon mae pont godi ddur, sy'n dal i’w chodi pan fydd angen i gychod basio. Yr adeilad sy'n wynebu'r bont godi oedd swyddfeydd yr harbwr, a godwyd yn ystod yr ehangiad. Mae ei waliau wedi'u gorchuddio â llechi.

Roedd Y Felinheli yn cael ei adnabod fel Port Dinorwig yn ystod anterth y diwydiant llechi. Ger Llanberis, gosodwyd wagenni llwythog o dramffyrdd chwarel Dinorwig ar wagenni mwy (1.2 metr rhwng y rheiliau) i'w cludo ar hyd Rheilffordd Padarn. Lled trac y wagenni chwarel oedd 578 mm (1tr 10¾ mod). Dadlwythwyd y wagenni llai ar ben inclein Pensgoins, ac yna eu gollwng i lawr i’r doc. 

Roedd gan y doc drac rheilffordd safonol hefyd, a gysylltai â rheilffordd Bangor-Caernarfon i ddosbarthu llechi ar y trên ar draws Prydain. 

Roedd cenedlaethau o forwyr, yn ogystal â gweithwyr dociau, yn byw yn Y Felinheli. Roedd y rhan fwyaf o'r dynion lleol a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd yn y Llynges Fasnachol, a oedd yn dod a bwyd a deunyddiau hanfodol i Brydain a'i Chynghreiriaid. Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf hefyd yn drwm ar deuluoedd lleol, gan gynnwys yr Assheton-Smyths. Bu farw Syr Robin Duff, etifedd Stad y Faenol, fel milwr yn 1914. Gweler ein tudalen am gofeb rhyfel Y Felinheli am fanylion.

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL56 4JN    Gweld Map Lleoliad

Gwefan Marina Port Dinorwic

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button