Wyrcws Abertawe gynt, Mount Pleasant
Mae safle preswyl yr Hen Ysbyty sy’n eiddo i Gymdeithas Tai Coastal ar safle’r wyrcws gynt a oedd yn gartref i dlodion. Roedd rhaid iddyn nhw weithio er mwyn talu am eu lle. Defnyddiwyd yr adeiladau’n ddiweddarach ar gyfer Ysbyty Mount Pleasant. Mae’r hen lun, gyda chaniatâd Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, yn dangos mynedfa i gerddwyr i ran isaf y safle.
Byddai plwyfi yn cynnig cymorth i’w tlodion tan i’r gyfraith newid yn 1834. Bryd hynny daeth y plwyfi ynghyd i ffurfio “Undebau”. Yn 1837 bu gwarcheidwaid tlodion Undeb Abertawe yn trafod codi wyrcws newydd ond penderfynwyd bod “Tŷ Diwydiant Abertawe ar hyn o bryd yn ddigon helaeth”.
Yn 1851 awdurdodwyd codi wyrcws newydd i gwrdd ag anghenion cynyddol yr ardal ond ni chafodd y gwaith ei gwblhau am dros ddegawd. Roedd lle yno ar gyfer tri chant o breswylwyr. Yn sgil ychwanegiadau diweddarch i’r adeilad, dyblwyd y ddarpariaeth. Ailadeiladwyd ysbyty’r wyrcws yn 1902. Deuai’r cyflenwad dŵr o fan yn uwch i fyny Gibbet Hill fel y gelwid y llechwedd hon.
Yn 1907 daeth 14 o deuluoedd a chanddyn nhw 61 o blant rhyngddyn nhw i’r wyrcws am iddyn nhw fethu â dod o hyd i dai fforddiadwy. Yn ôl bwrdd y gwarcheidwaid doedd dim tai gwag ar gael yn Abertawe a thai eisoes wedi’u gorboblogi.
Roedd llawer o’r plant preswyl naill ai wedi’u gadael yno neu wedi colli o leiaf un rhiant. Ar un noson yn 1897 holodd pedwar o blant - rhwng 3 ac 8 oed – am gael eu derbyn i’r wyrcws. Eu mam oedd wedi’u hanfon. Roedd un plentyn wedi’i gleisio’n ddifrifol yn sgil camdriniaeth. Yn 1899 gorchmynwyd J W Hopkin, milfeddyg, i dalu 2s 6c yr un yr wythnos i gynnal bob un o’r tri phlentyn a oedd wedi’u cynhedlu ganddo ef ac Ellen Jones, un o’r preswylwyr.
Er mai anodd oedd hi yn y wyrcws, bu rhai preswylwyr yno am gyfnod hwy na disgwyliad einioes arferol. Roedd y fydwraig Jane Jones yn y wyrcws adeg cyfrifiad 1881. Nodwyd ei bod yn 99 oed bryd hynny. Roedd yn dal yno a hithau’n gant a phump. Yn 1899 bu farw William Thomas (“Billy Doms”) yn y wyrcws ac yntau’n gant oed. Roedd ei ferch 70 oed a’i fab 62 oed yn preswylio yno hefyd. Ar un adeg ei fywoliaeth oedd gwerthu gwair a lladd creaduriaid i ffermwyr. Roedd Robert Phillips yn 102 oed pan fu farw yn y wyrcws yn 1910. Bu’n byw yno am 16 mlynedd.
Roedd Mary Norman, ei llysenw oedd “Lady Tichborne”, yn 87 pan fu farw yma yn 1907. A hithau wedi byw bywyd o ddiota a diffyg trefn, fe’i cafwyd yn euog o’i chanfed trosedd namyn un yn 1893.
Yn 1904 dewisodd gwraig yn ei hwythdegau aros yn y wyrcws wedi iddi etifeddu swm sylweddol o arian.
Daeth rhagor o breswylwyr i’r wyrcws yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth tri phlentyn yr Is-Gorpral William Morris yma yn blant amddifad yn 1919. Collwyd y tad ar faes y gad yn 1916. Roedd eu mam, Margaret, wedi symud yma gyda nhw yn dioddef o salwch tra’n gweithio yn fatrïoedd arfau tocsig Pen-bre. Ym mis Mawrth 1919 trefnwyd angladd milwrol ar gyfer un o breswylwyr y wyrcws sef y Corpral Henry Charles Dawson, gan Gymrodyr y Rhyfel Mawr.
Roedd yr hen wyrcws yn ysbyty yn y GIG yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Cafodd ei addasu’n llety cymdeithas tai erbyn diwedd y ganrif.
Cod post: SA1 6XN Map
Diolch i Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, ac i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad. Mae’r ffynonellau’n cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru.