Gibbet Hill a’r Pwll Golchi, Abertawe
Roedd Gibbet Hill ar un adeg yn safle crogi cyhoeddus. Yn yr Oesoedd Canol dŵr o’r tarddelli yma a oedd yn cyflenwi dŵr ar gyfer Abertawe ac yn adlenwi Pwll Golchi Mayhill. Bellach mae’r pwll a’r llethr yn hafan i fywyd gwyllt yng ngofal y gymuned leol.
Credir bod Gibbet Hill wedi ei ddewis yn fan crogi gan fod y safle yn weladwy i’r ran fwyaf o’r dref. Mynnai’r awdurdodau fod gweld dienyddio cyhoeddus yn arf ataliol grymus.
Mae’n debygol fod William Crach wedi’i grogi ar Gibbet Hill am ei ran yng ngwrthryfel Rhys ap Maredudd yn 1287. Daeth torfeydd i wylio’r crogi, ond dechreuodd Wiliam anadlu drachefn. Archwiliwyd yr achos gan awdurdodau’r Eglwys. Cyfieithwyd canlyniadau’r archwiliad sydd yn archifau’r Fatican yn Rhufain gan Andrew Dulley, hanesydd o Abertawe. Mae datganiadau’r tystion yn cytuno iddo gael ei ddienyddio ar Gibbet Hill.
Mae’r lluniad, a rydym yn ddyledus i Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg amdano, yn dod o lithograff o 1881 ac yn dangos lleoliad Gibbet Hill (y chwith uchaf) a’r dref wreiddiol (ar y dde).
Wrth i’r crachach Sioriaidd godi plasau urddasol yn ardal Mount Pleasant, aeth Gibbet Hill yn North Hill, enw llai arswydus! Roedd yr hen enw yn cael ei ddefnyddio am hydoedd wedi hynny. Nodir Gibbethill ar fap Arolwg Ordnans 1884 a Gibethill Road (North Hill Road, bellach) ar fap 1900. Roedd Gibbett Hill yn rhan o adran orllewinol swyddogol heddlu Abertawe yn 1914.
Byddai’r Pwll Golchi yn ddefnyddiol ar gyfer golchi dillad. Dyw’r nant sy’n ei dyfrio byth yn sychu. Yn ogystal â darparu dŵr i’r dref ganoloesol, ysgubai’r afon garthion o ffos y dref, y tu allan i furiau’r dref. Yn y ddeunawfed ganrif roedd yr afon yn cyflenwi dŵr i danerdy mawr, safle’r Kingsway erbyn hyn. Adeiladodd gwŷr oes Fictoria gronfeydd dŵr bychan ar y bryn wrth i boblogaeth y dref gynyddu. Roedd y cyflenwad dŵr i’r wyrcws a godwyd ar ran is o Gibbet Hill yn y 1860au yn llifo i gyfeiriad y dref trwy bibellau haearn bwrw ar hyd Bryn Syfi Terrace.
Mae’r rhan o’r bryn nad adeiladwyd arno yn rhan o rodfa bywyd gwyllt Hillside, rhwng Parc Bryn y Don a Chwarel Rosehill. Mae’r llwybrau a’r pwll yng ngofal criw o gyfeillion lleol. Nhw hefyd sy’n rheoli’r ardd fwyd gymunedol. Ewch at y ddolen isod am fanylion.
Diolch i Andrew Dulley o Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, ac i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad