Rhes dai Georgaidd, Machynlleth
Rhes dai Georgaidd, 32-36 Heol Maengwyn, Machynlleth
Adeiladwyd y rhes dai yma yn hwyr yn y 18fed ganrif. Ymhlith meddianwyr blaenorol y tai roedd perchennog cloddfa plwm, a dyn a symudodd i fyw yng Nghanada ac a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Os ydych newydd sganio’r codau QR yn Oriel Seren, edrychwch i fyny i werthfawrogi pensaernïaeth y tai teras. Dinistriwyd y cymesuredd gwreiddiol wrth adeiladu’r tŷ ar y dde tua 1900, ond mae’r tŷ ar y chwith (rhif 36) wedi cadw’r drws gwreiddiol. Roedd yn gartref i Hugh Williams, masnachwr coed, a sefydlodd partneriaeth gyda dyn o Aberdyfi er mwyn mentro ym maes mwyngloddio. Roeddynt yn ffodus iawn i gael hyd i wythïen blwm da ger Dylife, ar ochr de-ddwyrain Machynlleth. Datblygwyd gwaith helaeth yma, gyda Hugh yn rheolwr.
Priododd merch Hugh, Catherine, â Richard Cobden, un o brif ymgyrchwyr dros ddileu’r Deddfau Ŷd (oedd yn cynyddu prisiau bwyd trwy gyfyngu mewnforion er mwyn diogelu ffermwyr cyfoethog oedd yn cynhyrchu grawn). Ymwelodd y cwpl â rhif 36 nifer o weithiau, a bedyddiwyd eu merch Kate, yn Eglwys Sant Pedr ym 1846.
Cyfreithiwr oedd brawd Catherine, Hugh (1796-1874) oedd yn gwneud gwaith cyfreithiol ar ran Merched Beca (oedd yn gwisgo fel menywod er mwyn dinistrio’r tolldai i wrthdystio yn erbyn amodau byw yng nghefn gwlad) a bu’n annerch cyfarfodydd o’r Siartwyr (oedd yn ymgyrchu dros ddiwygiadau gwleidyddol megis pleidlais gudd a phleidlais i bob dyn).
Ym 1911 roedd tŷ canol y teras (rhif 34) yn gartref i Jane Thomas a’r teulu, gan gynnwys ei mab Richard Henry Thomas (yn y llun ar y dde). Symudodd i fyw i Ganada rhai blynyddoedd cyn cychwyn y rhyfel. Ymrestrodd gyda Throedfilwyr Ysgafn y Dywysoges Patricia yn Ionawr 1915, a chyrhaeddodd Ffrynt y Gorllewin chwe mis wedi hynny.
Tra roedd adref ar seibiant yn ystod Gwanwyn 1916, roedd yn optimistaidd ynghylch canlyniad y rhyfel. Dywedodd i’r Almaenwyr ddefnyddio llysenw “Black Devils” ar gyfer ei fataliwn ef o Droedfilwyr Canada, ar ôl i’r milwyr dduo wynebau cyn ymosod ar rengau’r Almaenwyr. Lladdwyd Richard mewn brwydr yn ardal y Somme ym Medi 1916, yn 33 oed.
Agorodd Oriel Seren yma yn 2017, yn oriel ddielw sy’n arddangos ac yn gwerthu gwaith artistiaid a gwneuthurwyr cyfoes, a’r rhan fwyaf ohonynt yn byw yng Nghymru.
Gyda diolch i Rab Jones
Cod post : SY20 8DT Map
I barhau ar y daith ar thema’r Rhyfel Byd Cyntaf ym Machynlleth, cerddwch am ychydig tua’r gorllewin ar hyd Heol Maengwyn at siop Ian Snow, ar eich chwith |