Cyn Swyddfa Bost, Machynlleth

PWMP logoCyn Swyddfa Bost, Machynlleth

Bellach yn gartref siop Ian Snow Interiors, Crafts & Clothing, ar un adeg enw’r adeilad oedd Paternoster.   Roedd yn gartref i swyddfa bost Machynlleth am fwyafrif yr 20fed ganrif.

Yn gynnar yn yr 20fed ganrif, daeth pobl i Adeilad Paternoster i brynu nwyddau tobacco gan offeiriad oedd wedi ymddeol.  Hanesydd lleol a gweinidog ordeiniedig y Methodistiaid oedd y Parch Evan Jones. Ar ôl gorfod rhoi’r gorau i bregethu oherwydd ei iechyd, yn ystod y 1880au, bu’n rhedeg busnes nwyddau ysgrifennu a chyhoeddi, a fo oedd asiant lleol Lady Godiva Cigars; marchoges noeth oedd ar logo’r cwmni.

Ym 1908 awdurdodwyd symud y swyddfa bost i Adeiladau Paternoster gan y Llywodraeth; ar yr adeg, hen adeilad oedd hwn yn eiddo i Mrs Anne Jones.  Ymhlith y gwaith ail-adeiladu a wnaethpwyd roedd gosod llawr gwaelod cyfan gydag addurn terra cotta a chownter tu ôl i sgrin gwydr. Yn y cefn, roedd swyddfa ddosbarthu fawr, ffwrn i’r gweithwyr a lle bwyta i’r postmyn. Roedd y toiledau allan yn yr iard, a adeiladwyd yn unol â’r “egwyddorion mwyaf cyfoes”.

Bu farw tri o weithwyr post Machynlleth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Postmon oedd Arthur George Gurney cyn mynd yn Gorporal yn y Gwarchodlu Cymreig. Cafodd ei ladd yn Ffrainc ym mis Mai 1915, yn 29 oed. Bu farw ei weddw, Catherine, ym 1917, gan adael eu merch Margaretta yn blentyn amddifad. 18 oed oedd Margaretta, pan fu farw ym 1929.

Tri mis yn ddiweddarach, bu farw’r Siarsiant Edward Owen yn ystod ymdrech ofer y Cynghreiriaid i ennill Twrci trwy benrhyn Gallipoli. Cyn y rhyfel, bu’n bostmon ym Machynlleth. Gadawodd Mary ei weddw, a thri o blant.

Bu Hugh David Hughes yn gweithio i’r swyddfa bost am bedair blynedd cyn mynd i wasanaethu gydag adfyddin Gwarchodlu’r Grenadwyr. Bu farw ym 1918 yn 18 oed, a chafodd ei gladdu ym mynwent Anghydffurfwyr Machynlleth, gydag anrhydeddau milwrol llawn.

Roedd y swyddfa bost yn yr adeilad tan y 1990au. Wedi hynny, roedd yr adeilad yn ganolfan i helpu pobl gael hyd i wasanaethau lleol. Bellach, tro Ian Snow yw defnyddio’r adeilad; cychwynnodd trwy werthu nwyddau llaw o’r India mewn marchnadoedd ym Machynlleth a threfi eraill ar draws Canolbarth Cymru ym 1977.

Cod post: SY20 8AE    Map

Gyda diolch i Rab Jones

Gwefan Ian Snow

I barhau ar y daith trwy Fachynlleth ar thema’r Rhyfel Byd Cyntaf, ewch i ben Heol Maengwyn, trowch i’r chwith i Heol Pentrerhedyn ac i’r chwith eto wrth y cylchfan bach. Y Plas yw’r adeilad mawr ar y dde
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button