Cymraeg Ginkgo Avenue and Castle Stables
Rhodfa Ginkgo a Stablau'r Castell
Mae rhodfa anarferol o goed ginkgo yn arwain i ffwrdd o’r lleoliad hwn ym Mharc Bute (safwch â’ch cefn at y castell ac edrychwch tua’r gogledd). Mae’r coed bob ochr i’r dramwyfa rhwng mynedfa ogleddol y castell a Stablau'r Castell, y gallwch eu gweld ar ben pellaf y rhodfa.
Mae coed ginkgo yn rhywogaeth hynafol – canfuwyd ffosiliau ohonynt sy’n dyddio’n ôl tua 200 miliwn o flynyddoedd yn Tsieina, o le maen nhw’n hanu. Fe’u tyfwyd gan fynachod Tsieineaidd am ganrifoedd cyn i bobl ddechrau eu plannu mewn gerddi yn Ewrop yn y 18fed ganrif. Un o’r prif atyniadau’r yw’r ffrwydrad o felyn a ddangosant yn yr hydref.
Un o’r pethau llai atyniadol amdanynt yw arogl y ffrwythau sy’n amgylchynu’r hadau a gynhyrchir gan y coed benywaidd yn yr hydref (ydyn, mae rhai yn wrywaidd a rhai yn fenywaidd!). Mae’r ffrwythau'n grwn, yn felyn golau/brown eu lliw, ac yn arogli fel menyn pydredig neu chwŷd oherwydd y math o asid sydd ynddynt. Does ryfedd iddynt ennyn y ffugenw ‘coed drewllyd’!
Plannwyd rhodfa goed ar y dramwyfa hon erbyn 1880. Yn wreiddiol, roedd dwy res o goed bob ochr, ond fe’u tociwyd yn un rhes. Pan oedd angen newid y coed hyn yn y 1950au, Bill Nelmes, prif swyddog parciau’r cyngor, ddewisodd ginkgo. Roedd yn fotanegydd brwd, a phlannodd goed ginkgo ar hyd rhai o strydoedd maestrefol Caerdydd.
Os ydych yn y parc yn y gwanwyn, yr haf neu’r hydref, cymerwch sylw o ddail y ginkgo. Mae siâp unigryw iddynt. Os ydych yno yn y gaeaf, edrychwch ar logo Parc Bute ar dop y dudalen hon – mae dwy ddeilen ginkgo arno!
Dechreuwyd adeiladu Stablau'r Castell ym 1874, fel lle i geffylau a cherbydau teulu Bute. Yn ddiweddarach roedd yn llety i weithwyr ystâd Bute, a symudodd gyda’r parc i’r cyngor ym 1947. Defnyddiodd y cyngor yr adeiladau fel rhywle i gynnal gweithgareddau eraill a gosod offer arall hefyd. Roedd yr adeiladau mewn cyflwr gwael erbyn y 1980au, pan gawsant eu prydlesu i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Buddsoddodd y coleg lawer o arian yn adfer y stablau fel atodiad i’w brif adeilad, i’r gogledd ohonynt.
I barhau â thaith Parc Bute, cerddwch i’r dwyrain i Borth y Gogledd, lle mae côd QR ar y gât |