Cerdyn post Bae Colwyn: Cerrig yr Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol
Cerdyn post gwenithfaen: Cerrig yr Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol
Mae’r cerdyn post gwenithfaen hwn ar y prom ym Mae Colwyn yn dangos y cylch cerrig y gallwch fynd i’w weld ym Mharc Eirias. Yn groes i’w ymddangosiad, nid yw’r cylch yn un cynhanesyddol! Fe’i adeiladwyd ar gyfer seremonïau oedd yn gysylltiedig ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Cynhelir yr Eisteddfod pob haf mewn man gwahanol o Gymru, ac roedd ym Mae Colwyn yn 1910 a 1947. Mae beirdd, llenorion, cerddorion ac artistiaid yn cystadlu yn yr Eisteddfod. Mae’r digwyddiad yn cynnwys adloniant ac ymrysonau hefyd. Mae oddeutu 150,000 o ymwelwyr yn mynychu yn flynyddol.
Mae cylch cerrig sydd yng nghyffiniau pob Eisteddfod yn llunio lleoliad seremonïau Gorsedd y Beirdd – grŵp o ffigyrau Cymreig nodedig sydd wedi gwisgo mewn gwisgoedd derwyddol. Ymgynullodd yr Orsedd am y tro cyntaf yn Llundain yn 1792 gan Edward Williams, a adnabyddir gan ei enw barddol "Iolo Morgannwg”. Roedd yn fardd ac yn radical gwleidyddol, ac yn gaeth i gyffur o'r enw lodnwm. Roedd yn ffugio dogfennau i argyhoeddi pobl fod ffrwyth ei ddychymyg, gan gynnwys yr Orsedd, yn deillio o hanes y derwyddon Celtaidd hynafol
Yn 1819, fe sefydlodd gylch derwyddon ar raddfa fechan yng Nghaerfyrddin ac fe gynhaliodd seremoni’r Orsedd i gyd-fynd ag eisteddfod daleithiol. O hynny ymlaen, roedd yr Orsedd â chysylltiad agos ag eisteddfodau. Mae'r llun ar y chwith yn dangos seremoni Gorsedd y gweill yn y cylch cerrig ym Mharc Eirias yn 1947. Y ffotograffydd oedd Harry Rogers Jones, ac mae’r llun yn ymddangos yma trwy garedigrwydd David Rogers Jones.
Mae pob Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chyhoeddi mewn seremoni flwyddyn o flaen llaw. Mae plac ar y maen llog ym Mharc Eirias yn cofnodi y cafodd Eisteddfod 1947 ei "chyhoeddi” o’r maen ym mis Mehefin 1946.
Gyda diolch i David Rogers Jones
Cod post: LL29 8PT
Cliciwch yma am fap o leoliad y cerdyn post.