Cerdyn post Bae Colwyn: Ymosodiad ar Frenin Richard II
Cerdyn post gwenithfaen: Ymosodiad ar Frenin Richard II
Mae’r cerdyn post gwenithfaen ar y prom ym Mae Colwyn yn ymwneud â’r ymosodiad ar Brenin Richard II ar ben dwyreiniol y bae yn 1399
Digwyddodd yr ymosodiad ger Penrhyn Penmaen, y penrhyn creigiog y gallwch ei weld yn y pellter os edrychwch ar draws y bae oddi yma. Cliciwch yma i ddarllen ein tudalen we am Benrhyn Penmaen.
Ganed Richard II yn Bordeaux, Ffrainc, yn 1367. Edward, “y Tywysog Du” oedd ei dad, a Brenin Edward III oedd ei dad yntau. 10 oed yn unig oedd Richard pan ddaeth yn frenin. I gychwyn, ei ewyrth, John o Gaunt, oedd y llywodraethwr effeithiol.
Roedd llawer o bolisïau Richard yn amhoblogaidd gyda’r Senedd. Roedd dicter wedi dwysau ar ôl marwolaeth John o Gaunt ym mis Chwefror 1399 ac fe gymerodd Richard eiddo a fyddai fel arall wedi mynd i fab John, Henry Bolingbroke.
Treuliodd Richard yr haf canlynol yn Iwerddon. Yn ei absenoldeb, ymgasglodd Henry gefnogwyr dylanwadol ynghyd, ac fe ymosododd rhai ohonynt ar Richard wrth iddo ddychwelyd yn ôl o Iwerddon ar hyn arfordir Gogledd Cymru. Diorseddwyd Richard ym mis Medi a bu farw ym mis Chwefror 1400. Teyrnasodd Henry fel Brenin Harri IV nes ei farwolaeth yn 1413.
Mae hanes Richard yn cael ei adrodd yn un o ddramâu hanesyddol William Shakespeare, o’r enw The Tragedy of King Richard the Second.
Cod post: LL29 8PT
Cliciwch yma am fap o leoliad y cerdyn post.