Tafarn yr Horse and Jockey, Wrecsam

button-theme-history-for-all-W

BSL-USED-HERE---logoMae’r adeilad isel hwn, gyda’i do gwellt, yn edrych yn anghydweddol yng nghanol ardal fasnachol brysur Wrecsam. Mae'n un o'r adeiladau hynaf yng nghanol y dref, a adeiladwyd o bosibl yn yr 16eg ganrif fel tŷ neuadd – preswylfa wedi'i chanoli ar ystafell fawr heb nenfwd. Daw'r hen lun o'r adeilad o gasgliad y diweddar Graham Lloyd.

Old photo of the Horse and JockeyYn yr 17eg ganrif, estynnwyd yr adeilad a'i rannu'n dri bwthyn. Yn ddiweddarach, tŷ preifat oedd y rhan agosaf at Stryt yr Hôb, a ddefnyddid weithiau fel gwesty bach, tra bod y rhan ar hyd Heol y Prior yn “dŷ cwrw” o’r enw The Colliers. Cyfunwyd yr adeiladau yn un dafarn ym 1868.

Er gwaethaf y newidiadau niferus ar gyfer gwahanol ddefnyddiau dros y canrifoedd, gallwch weld cipolwg o'i adeiladwaith ffrâm bren gwreiddiol y tu mewn. Rhoddwyd yr enw Horse and Jockey ar y dafarn er anrhydedd i Fred Archer (1857-1886), joci a aned yn Cheltenham. Bu’n rasio ym Mangor Is-coed ac ar nifer o gaeau ras eraill. Lladdodd ei hun yn 29 oed, ar ôl marwolaeth ei blentyn cyntaf ac yna marwolaeth ei wraig wrth iddi roi genedigaeth i'w hail blentyn.

Ystyrid Fred yn un o'r jocis gorau erioed, gan iddo ennill mwy na 2,700 o fuddugoliaethau yn ystod ei fywyd byr. Roedd yn bencampwr y jocis 13 o weithiau, er gwaethaf ei daldra o 1.78 metr (5 troedfedd 10 modfedd) – yn anarferol o dal i joci. Paentiwyd y llun ar arwydd y dafarn yn 1938, gan gopïo paentiad gwreiddiol ohono.

Yn 1938 gwerthwyd y dafarn gan Bragdy Beirne i gwmni Wrexham Lager, a atgyweiriodd yr adeilad er mwyn ei atal rhag dymchwel. Y flwyddyn ganlynol, cafodd y cwmni drwydded ar gyfer deunyddiau i amddiffyn y to gwellt yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Bu hanesion am ysbryd o'r enw George yn yr Horse and Jockey. Yn 2013 dywedodd y landlord Geoff Williams fod ysbryd wedi achub glanhawr rhag anaf unwaith, drwy gydio yn ei choes wrth iddi ddechrau cwympo oddi ar y gadair yr oedd yn sefyll arni. Cafodd y glanhawr ei hysgwyd gan y profiad a bu'n rhaid iddi gymryd gweddill y diwrnod i ffwrdd.