Cymraeg Knight effigy, St Michael's Church

Sacred Doorways logo

Cerflun y marchog yn Eglwys San Mihangel, Betws y Coed

Cerflun o Gruffudd ap Dafydd Goch ydi hwn ac mae’n dyddio o oddeutu’r flwyddyn 1380. Mae o’n gerflun carreg a oedd, mwy na thebyg, yn gaead arch sydd yn anffodus wedi diflannu. Mae’r cerflun hefyd wedi ei symud o’i le gwreiddiol ac wedi ei gwtogi er mwyn ei osod yn y gilfach lle mae o ar hyn o bryd.

Gruffudd oedd un o bobl bwysicaf yr ardal yn y 14eg ganrif. Roedd yn dirfeddiannwr a oedd, gyda’i wraig Margaret, yn berchennog rhydd ar hanner trefgordd (tref fechan) Cwm Llanerch, ychydig i lawr y dyffryn o Fetws y Coed. Roedd bod yn berchennog rhydd yn golygu nad oedd rhaid iddo dalu rhent i’r brenin, a bod ganddo’r hawl i osod tir ac eiddo ar rent. Roedd o hefyd yn ben-rheithiwr rheithgor a sefydlodd Edward, y Tywysog Du (mab Edward y 3ydd), i adrodd ar faterion yn ymwneud â thir a rhenti.

Mae’n debyg y bu i Gruffudd fynd efo’r Tywysog Du i ryfela yn erbyn y Ffrancwyr yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd. Mae llunio cerflun ohono mewn gwisg arfog milwr yn dangos ei fod yn filwr ac yn un o statws uchel yn ardal Nant Conwy. Yn ei ddydd mi fyddai’r cerflun wedi ei baentio â lliwiau trawiadol ac wedi ei oreuro ond yn ystod Oes Fictoria fe orchuddiwyd y cwbl gan haen o sment.

Mae cerflun ŵyr Gruffudd, Hywel Coetmor, i’w weld yng Nghapel Gwydir, rhan o Eglwys Sant Grwst yn Llanrwst.

Mae’r arysgrif ar hyd ochr y cerflun Gruffudd yn nodi bod Gruffudd yn fab i Ddafydd Goch. Fe fu i rai haneswyr awgrymu bod Dafydd Goch yn fab i Ddafydd ap Gruffudd, ŵyr Llywelyn Fawr, ac yn frawd i Lywelyn ap Gruffudd sef Llywelyn Ein Llyw Olaf. Does dim tysiolaeth i gefnogi hyn, fodd bynnag.

Mae haneswyr mwy diweddar yn ystyried mai mab Dafydd Goch Penmachno oedd Gruffudd, disgynnydd i Nefydd Hardd, pennaeth un o Chwe Llwyth traddodiadol y Cymru. Dyma ei achres:

Nefydd Hardd (oddeutu’r flwyddyn 1105 O.C.) - Iorwerth (odd. 1140) - Llywelyn (odd. 1170) - Gruffudd (odd. 1200) - Dafydd (odd. 1230) - Dafydd Goch Penmachno (odd. 1260) - Gruffudd ap Dafydd Goch (odd. 1290)

 

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

Côd post: LL24 0AL

Gwefan Cyfeillion Eglwys San Mihangel