Gwarchodfa Cwningar Niwbwrch

Mae'r system twyni tywod eang yn Niwbwrch yn cael ei hystyried yn fiolegol yn un o'r cyfoethocaf ym Mhrydain.

Ffurfiwyd y dirwedd hon dros filenia gan elfennau naturiol a chan wrthdaro dynol a thrwy fasnach. Ar ôl concwest Normanaidd Cymru yn 1282, symudwyd poblogaeth frodorol Llanfaes, ger Biwmares, i "Newborough" (Niwbwrch, neu Rhosyr gynt) i wneud anheddiad Biwmares yn brif dref yr ardal honno. Ystyr yr enw ydi ‘New borough’ yn y Saesneg. Roedd y gorboblogi a ddeilliodd o hynny, y miloedd cwningod yn tyrchu, ffermio dwys a chynaeafu glaswellt Môr-hesgen – neu moresg ar lafar gwlad (marram grass) wedi dinoethi’r safle o lawer o'i lystyfiant. Yna, yn 1330, fe wnaeth storm fawr ansefydlogi'r twyni tywod oedd bellach yn fregus. Cafodd cannoedd o erwau o dir fferm a llawer o dai dros y canrifoedd canlynol eu claddu dan ddrifftiau o dwyni tywod mudol.

Roedd glaswellt Môr hesg yn werthfawr ar gyfer gwehyddu basgedi, rhaffau a matiau gwehyddu. Fodd bynnag, gwaharddwyd cynaeafu moresg gan y gyfraith am ganrifoedd yn dilyn y stormydd, i sefydlu'r twyni. Cynorthwyodd y twyni yr economi leol eto ar ôl i wehyddu moresg ailddechrau yn y 18fed ganrif. Cafodd cwningod, a wnaeth eu cwningar (warren) yn y twyni, eu dal yn eu miloedd gan bobl leol i'w bwyta nes i glefyd myxamatosis ddistrywio cwningod Prydain yn y 1950au. O ddechrau'r myxamatosis hyd heddiw, mae'r twyni wedi bod yn fwy sefydlog, gan golli cynefinoedd tywod noeth gwerthfawr a choedwigaeth rhannol.

Photo of marsh helleborineSefydlodd y Brenin Edward I fferi rhwng Niwbwrch a Caernarfon a fo oedd y brenin adeiladodd y cestyll yn y ddau le. Yn 1664 roedd y fferi wedi cyrraedd Cwningar Niwbwrch ond cyn i'r teithwyr gael eu caniatáu i’r lan, roedd dadl dros y pris i'w thalu. Yn y cyfamser fe wnaeth y cwch drifftio'n ôl allan a chafodd ei suddo gan y cerrynt cryf. Boddodd pob un ond un o'r 80 teithiwr.

Mae'r twyni agored yn gartref i gyfoeth o blanhigion ac anifeiliaid arbenigol. Maent yn cynnwys y galdrist lydanddail (dune helleborine), tegeirian a geir mewn ychydig o systemau twyni tywod yn ne Prydain, a Brial y gors (grass of Parnassus), nid glaswellt mohono ond blodyn gwyn ifori hardd. 

Mae'r caldrist y gors (marsh helleborine) yn ffynnu yn slaciau'r twyni – ceudyllau tywodlyd enfawr sy'n cael eu boddi'n rhannol mewn gaeafau gwlyb ac wedi'u gorchuddio â drifftiau o flodau gwyllt yn yr haf. Mae'r llun o caldrist y gors i'w weld yma drwy garedigrwydd Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Mae'r twyni yn gartref i lawer o infertebratau. Mae gloÿnnod byw yn cynnwys y britheg llwyd a pherlog ffiniol. Mae gelenod meddyginiaethol (medicinal leeches) a madfallod dŵr cribog mawr yn byw mewn ardaloedd parhaol o ddŵr, ochr yn ochr ac adar gwyllt yn cenhedlu a gaeafu. 

Mae Cwningar Niwbwrch yn Warchodfa Natur Genedlaethol, sydd hefyd yn cynnwys Ynys Llanddwyn, yr ynys lanw ym mhen gogleddol traeth Llanddwyn. Aber Afon Cefni a Traeth Melynog sy'n ffurfio'r ffiniau gogleddol a deheuol yn y drefn honno. 

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Gweld Map Lleoliad

Gwybodaeth i ymwelwyr Cwningar Niwbwrch – gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button