Cerflun moresg, ger Niwbwrch

button-theme-textilebutton-theme-womenCerflun moresg, ger Niwbwrch

Mae'r gwaith celf yng nghanol maes parcio Llyn Rhos Ddu yn darlunio moresg wedi'i gynaeafu – adnodd naturiol a deuai a bywoliaeth i fenywod lleol.

Mae'r cerflun yn cynrychioli bwndeli o moresg yn sychu er mwyn eu gwehyddu. Crëwyd y cerflun gan Ann Catrin Evans o Gaernarfon.

Old photo of Anglesey marram grass workers c1885Gwaharddwyd cynaeafu morhesg yn yr ardal am ganrifoedd i atal erydiad twyni tywod, fel y gallwch ddarllen ar ein tudalen am y twyni. Fodd bynnag, o'r 18fed i'r 20fed ganrif fe'i defnyddiwyd ar gyfer matiau gweuedig, yn benodol, yn ogystal â basgedi, rhaffau, ysgubau a chlustogau. Roedd y matiau'n boblogaidd ymhlith ffermwyr am gadw gwair ac ŷd yn sych.

Dangosir yr hen lun o weithwyr moresg Aberffraw c.1885 yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ar ôl ymweld â Newborough yn y 1770au, ysgrifennodd Thomas Pennant fod yr ardal “bellach yn bodoli trwy gynhyrchu matiau, a rhaffau moresg Rhosir, wedi’u gwneud o laswellt y môr”. Roedd y Frenhines Elizabeth I wedi gwahardd symud y corswellt, er mwyn atal ailadrodd yr anffawd pan gladdwyd hanner y plwyf mewn tywod “gan gynddaredd y tymhestloedd”.

Roedd gan bob teulu, yn answyddogol, ddarn o'r twyni lle roeddent yn cynaeafu'r moresg yn yr haf. Roedd y glaswellt fel arfer yn cael ei gadw am ddwy flynedd cyn gwehyddu. Byddai'r menywod, ac weithiau dynion a bechgyn, yn gwehyddu yn eu cartrefi, a dywedwyd nad oedd  gan neb yn unman arall sgiliau cystal. Roedd y gwaith yn aml yn cael ei watwar gan bobl o'r tu allan ond roedd yn sicrhau incwm cyson, pryd y byddai llafurwyr mewn cymunedau eraill weithiau'n dioddef caledi oherwydd cyflog isel.

Byddai’r gwehyddion yn gwerthu'r matiau i siopwyr lleol. Ym mis Ebrill 1919, dirwywyd siopwr yn Niwbwrch, David Williams, am dorri rheolau dogni bwyd amser rhyfel (a barhaodd mewn grym ar ôl y rhyfel). Un o'i droseddau oedd rhoi gormod o fenyn yn gyfnewid am fatiau moresg. Roedd pobl yn talu prisoedd da am y matiau ar y pryd, ac roedd cystadleuaeth am y matiau ymhlith busnesau lleol.

Mae'n ymddangos bod y diwydiant wedi arwain at ddywediad Cymraeg. Yn y papur newydd Americanaidd Y Drych ym 1890, ysgrifennodd gohebydd “Myned a matiau i Niwbwrch” i ddisgrifio gweithred ofer – cyffelyb i’r dywediad Saesneg “Carrying coals to Newcastle”.

Cod post: LL61 6RS    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button