Morfa heli Cefni

Rheolir yr ardal hon o gorstir arfordirol, i'r de o afon Cefni, gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru fel rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol sydd hefyd yn cynnwys Cwningar Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn. Aber y Cefni yw rhan fwyaf gogleddol o system twyni sy'n ymestyn i'r de i Draeth Melynog a Phwynt Abermenai.

Yn 1810 crëwyd arglawdd i ddal y môr yn ôl a chreu tir amaethyddol o'r tywod llanw helaeth a'r fflatiau llaid a oedd unwaith yn ymestyn mor bell i mewn i'r tir â Llangefni. Camleswyd yr afon, a chloddiodd ffosydd i wneud y tir yn ddigon sych ar gyfer ffermio. Ers adeiladu'r arglawdd, mae twyni tywod gogleddol Niwbwrch wedi tyfu'n sylweddol wrth i waddodion a arferai fynd am Llangefni gael eu dal ar geg yr aber.

Mae morfa heli a fflatiau tywod llanw'r Cefni yn ardaloedd bwydo pwysig, yn enwedig yn y gaeaf, ar gyfer adar gwyllt ac adar hirgoes gan gynnwys gïach cynffonfain (pintail), hwyaden lydanbig (shoveler), Pibydd coesgoch mannog (redshank), y gylfinir (curlew) a’r gïach gyffredin (snipe). Defnyddir yr aber fel safle bwydo gan filoedd o'r adar hyn sy'n mudo i'r de i ddianc rhag oerfel rhewllyd yr Arctig. Mae ysglyfaethwyr fel hebog y gogledd (peregrine falcon) a’r cidyll bach (merlin) yn aml yn ymweld â'r aber, gan obeithio codi ysglyfaeth ddiarwybod. 

Er mai lle o eithafion yw hwn, mae bywyd gwyllt wedi esblygu a dysgu byw mewn cytgord â'r llanw a'r amodau sy'n newid. Mae planhigion sy'n goddef halen fel seren y morfa (sea aster) a lafant y môr (sea lavender), sy’n aml yn cael eu boddi gan y môr, yn angori eu hunain i'r silt symudol er mwyn osgoi cael eu cymryd gan y cerrynt. Mae'r aber yn gyforiog o bysgod sy’n brif ysglyfaeth morloi llwyd yr Iwerydd a'r dyfrgi. 

Yn ôl yr Athro Hywel Wyn Owen, mae'r enw Cefni yn deillio o'r gair Cymraeg cafn, sy'n golygu dip, pant neu gafn. Mae'n debyg bod hyn yn cyfeirio at y ceunant cul a elwir bellach yn Nant y Pandy neu'r Dingle, ar gyrion Llangefni. Mae enw Llangefni, tref sirol Ynys Môn, yn adlewyrchu ei leoliad wrth ymyl afon Cefni.

Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, ac i Graham Williams. Hefyd i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Gweld Map Lleoliad

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button