Parc Tredelerch

Logo for Cardiff Council

Parc Tredelerch

Mae’n anodd credu heddiw, ond roedd y tir i’r gogledd-orllewin o Lwybr Arfordir Cymru yn yr ardal hon yn ardal a oedd wedi ei thrwyddedu i dipio gwastraff ynddi. Cafodd yr ardal ei chlirio a’i thirweddu rhwng 2001 a 2003 er mwyn creu parc newydd, Parc Tredlerch.

Llyn sy’n rhyw 40,000 metr sgwâr (4 hectar) yw canolbwynt y parc. Cafodd yr ardal o gwmpas y llyn ei thirweddu a phlannwyd planhigion yno i greu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Mae 2 gilomedr o lwybrau cyhoeddus yn y parc, yn cynnwys llwybr dros y llyn. Ymhlith y rhywogaethau y gellir eu gweld yma mae’r Alarch Ddof, yr Wyach Fawr Gopog, y Gotiar a’r Hwyaden Fawr Wyllt, yn ogystal  â Gwas y Neidr a Ieir Bach yr Haf.

Cafodd clwb pysgota Llyn Lamby ei sefydlu i reoli’r pysgod bras ym Mharc Tredelerch. Mae’r pysgod yn cynnwys ysgretennod, draenogiaid dŵr croyw, rhuddbysgod aur a nifer o fathau o gerpynnod. Mae rhai wedi tyfu i ryw 14 cilogram.

Mae Safle Tirlenwi Ffordd Lamby ychydig i’r de o’r parc. Mae’r safle hwn wedi bod yn derbyn gwastraff ers degawdau, ond bydd yn cau yn 2014 yn sgil y twf mewn dulliau eraill o waredu gwastraff, yn enwedig ailgylchu.

Enw annedd gynnar oedd Lamby, yn golygu ‘fferm hir’. O’r hen Norseg býr (“tyddyn/fferm”) y daw’r -by yn Lamby. Mae’r elfen hon hefyd i’w gweld yn yr enw Womanby Street yng nghanol Caerdydd. O’r hen air Norseg am “hir” y daw’r langr a oedd yn sail i’r Lam- yn Lamby.

Yr enw Cymraeg ar hen faenor ddemen Rhymni oedd Tredelerch. Bu’r faenor gynt yn rhan o Arglwyddiaeth Gwynllŵg yng Ngwent, a sylfaenwyd mae’n debyg yn fuan ar ôl i’r Normaniaid oresgyn Morgannwg a Gwynllŵg tua 1093. Mae’r gair yn cynnwys yr enw tref, yn yr ystyr gynharaf, sef “fferm, preswylfa”, ac enw’r perchennog gwreiddiol tybiedig, Telerch (nad ydyn ni’n gwybod dim amdano). Ystyr Tredelerch, felly, yw “Fferm Telerch”.

Tua’r gorllewin o Barc Tredelerch, mae Llwybr Arfordir Cymru yn croesi afon Rhymni, sy’n llifo o Fannau Brycheiniog, drwy Gwm Rhymni, ac yna i’r môr ryw 1 cilomedr i’r de o’r fan yma. Mae Taith Rhymni, llwybr cerdded sy’n dilyn hynt yr afon, yn gadael Llwybr Arfordir Cymru drwy Barc Tredelerch wrth fynd tua’r gogledd.

Gyda diolch i’r Athro Gwynedd Pierce, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Ymhle mae’r HiPoint hwn?

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button