Cymraeg Penarth Pier Pavilion
Pafiliwn Pier Penarth, Yr Esplanade
Adeiladwyd pafiliwn pren ar ben pellaf pier Penarth ym 1907. Fe’i adnabwyd fel y Bijou Pavilion, ac roedd ynddo adloniant dyddiol ar gyfer twristiaid a thrigolion lleol. Ar ôl gwerthu’r pier i'r cyngor yn 1924, ehnagwyd y strwythur ger y lan ac adeiladwyd pafiliwn newydd yno – y pafiliwn sy'n nodwedd o lan y môr Penarth heddiw.
Agorwyd y pafiliwn Art Deco ym Mai 1929. Yn anarferol am ei gyfnod, cafodd ei wneud bron yn gyfan gwbl o ffero-concrid, gan gynnwys y to crwm. Ond yn fuan effeithiodd y dirwasgiad economaidd ar y pafiliwn, trwy leihad yn y gynulleidfaoedd a fynychai adloniant traddodiadol. Ail-agorwyd yr adeilad fel sinema ym 1932, ond methodd y fenter honno hefyd. Wedyn crewyd y Marina Ballroom yn y pafiliwn, ac roedd hyn yn lwyddiannus. Roedd ymhlith y llefydd mwyaf poblogaidd i bobl ifanc Caerdydd a Phenarth i gymdeithasu.
Ym mis Medi 2013, ail-agorwyd y pafiliwn ar ôl gwaith adfer gwerth £4.2m. Mae'r adeilad yn awr yn cynnal arddangosfeydd a gweithdai celf, ffilmiau sinema a chyngherddau, ac yn darparu cyfleusterau ar gyfer grwpiau cymunedol. Enwyd y gwaith adfer yn "Brosiect y Flwyddyn" gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig y DU.
Room 617 yw enw ystafell arsyllfa’r pafiliwn, cyfeiriad at sgwadron y “Dambusters” yn yr Ail Ryfel Byd. Roedd pennaeth milwrol y sgwadron, Guy Gibson, yn byw am gyfnod ym Mhenarth ac roedd yn chwarae golff ar dir clwb Morgannwg pan ddysgodd y byddai’n derbyn Croes Fictoria.
Côd post: CF64 3AU
Gwefan prosiect pafiliwn Penarth
![]() |
![]() ![]() |