Pentref Portmeirion, ger Porthmadog

Pentref Portmeirion, ger Porthmadog

Syniad y pensaer Clough Williams-Ellis (1883-1978) yn y 1920au oedd adeiladu’r pentref mympwyol hwn, ar lethr sy'n arwain i lawr at aber y Deudraeth. Mae o ar y chwith yn y llun, yn sgwrsio ym 1956 gyda'r pensaer Americanaidd Frank Lloyd-Wright, y magwyd ei fam ger Aberystwyth.

photo of_clough_williams_ellis_with_frank_lloyd_wright

Yr adeilad hynaf ar y safle yw Castell Deudraeth, a godwyd gan yr AS lleol yn y cyfnod Fictoraidd cynnar. Mae'r castell gwreiddiol o'r enw hwnnw yn dyddio o'r 12fed ganrif. Erbyn yr 17eg ganrif roedd yr enw Aber Iau yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y castell a bythynnod, iard gychod a ffowndri gerllaw.

Yn 1812, llofruddiwyd morwyn yno. Cafodd gloddiwr lleol, a elwid “Yr Hwntw Mawr”, ei hongian yn Nolgellau am ei llofruddiaeth.

Dewisodd Clough Williams-Ellis yr enw Portmeirion pan brynodd y tir yn 1925. Mae Port yn cyfeirio at leoliad yr arfordir, Meirion at yr ardal leol (Meirionnydd).

Trigai ym Mhlas Brondanw, i’r dwyrain o Borthmadog. Dechreuwyd adeiladu'r pentref, a oedd eisoes wedi'i gynllunio'n fanwl, yn 1925. Roedd llawer o'r adeiladau, yn aml yn ffasiwn Celf a Chrefft y dydd, yn eu lleoedd pan ddechreuodd y rhyfel yn 1939.

Pan ailgychwynodd y gwaith yn 1954, roedd y pensaer yn ffafrio steiliau hŷn, clasurol. Achubodd nifer o adeiladau oedd ar fin cael eu dymchwel, a'u codi ym Mhortmeirion. Y tollborth, a ychwanegwyd yn 1976, oedd yr adeilad olaf iddo ei godi ym Mhortmeirion.

aerial_view_of_portmeirion

Mae gerddi Portmeirion a'r coetir ger y pentref yn cynnwys coed hanesyddol. Mae'r cynharaf, a blannwyd yn y 1850au, yn cynnwys cochwydd, ffynidwydd Douglas a chedrwydd Deodar. Ymhlith y planhigion Fictoraidd yn yr hyn sydd bellach yn bentref mae masarnwydden amrywiol (dail amryliw), pisgwydd arian wylofus a choeden diwlip (neu boplys melyn).

Yn y 1960au chwaraeodd trigolion lleol fân rolau yn y gyfres deledu The Prisoner, gyda Patrick McGoohan yn serennu. Darlledwyd yn wreiddiol yn 1967. Darparodd Portmeirion set ffilmiau parod ar gyfer y stori hon am unigolyn, a adnabuwyd gan ei rif yn unig, yn gwrthryfela yn erbyn ei wahanu oddi wrth bywyd arferol. Mae selogion y gyfres yn cynnal confensiwn blynyddol ym Mhortmeirion.

Portmeirion yw un o atyniadau ymwelwyr mwyaf poblogaidd Gogledd Cymru ac mae’n cynnwys bwyty, gwestai a llety gwyliau hunanarlwyo. Gerllaw mae gorsaf Minffordd, ar reilffordd Arfordir y Cambrian a rheilffordd stêm Ffestiniog.

Gallwch ddarllen am adeilad arall gan Clough Williams-Ellis, yng Nghricieth, yma.

Cod post: LL48 6ER    Map

Gwefan Portmeirion

Arweinlyfr sain Portmeirion ar eich ffôn – app ar gael o’r wefan uchod

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button