Tolldy a depo rheilfordd Boston Lodge
Tolldy a depo rheilfordd Boston Lodge, ger Porthmadog
Codwyd yr adeilad hwn, ym mhen de-ddwyreiniol y Cob, ar gyfer casglu’r tollau a gafodd eu cyflwyno pan agorwyd yr arglawdd hir ym 1811. Mae tariff o daliadau tollau o'r 19eg ganrif yn dal i'w gweld ar flaen yr adeilad. Gweithredwyd y Cob yn breifat, gydag awdurdod gan Ddeddf Seneddol o 1807 i godi tollau ar gerbydau ffordd a oedd yn croesi. Ym mis Ebrill 1978, prynwyd yr hawliau gan gorff lleol o'r enw yr Ymddiriedolaeth Rebecca, a barhaodd i godi toll 5c y cerbyd am 25 mlynedd. Byddai’r corff yn dosbarthu’r arian dros ben yn flynyddol i achosion da lleol. Daeth y tollau i ben ar 29 Mawrth 2003, ar ôl i Lywodraeth Cymru brynu’r Cob gan yr ymddiriedolaeth
Gyferbyn â'r tolldy saif gweithdai Boston Lodge, depot Rheilffordd Ffestiniog, ar dir ychydig yn uwch na'r ffordd. Datblygwyd y safle ar gyfer y locomotifau stêm cyntaf yn y byd i weithredu ar drac cul.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd dros 50 o wragedd lleol yn gwneud cistiau siel ym Moston Lodge. Roedd yn rhaid i lawer ohonynt gerdded ar hyd y Cob yn y tywyllwch cyn neu ar ôl ei sifftiau, nes i reolwyr y rheilffordd ddarparu trên am 5.45 y bore iddynt. Cynhyrchwyd darnau i danciau yma yn yr Air Ryfel Byd.
Gyda chau’r rheilffordd ym 1946, gadawyd y rhan fwyaf o'r injieni a cherbydau yn Boston Lodge am nad oedd mecanwaith cyfreithiol ar gyfer cael gwared ohonynt. Naw mlynedd yn ddiweddarach, llwyddodd cyfeillion y rheilffyrdd i ailagor y lein rhwng Boston Lodge a Porthmadog a dechrau adfer yr hen injieni a cherbydau.
Heddiw mae Boston Lodge yn ganolfan o arbenigedd. Yma y mae hen gerbydau yn cael eu hadfer ar gyfer cleientiaid megis Amgueddfa Trafnidiaeth Llundain. Mae periannwyr Boston Lodge wedi adeiladu nifer o gerbydau a locomotifau stêm ar gyfer Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Eryri. Am ran helaeth o'r flwyddyn, mae Boston Lodge hefyd yn gwasanaethu’r holl injieni a ddefnyddir ar Reilffordd Ffestiniog ac un injian yn ddyddiol ar gyfer Rheilffordd Eryri.
Cod post: LL49 9NF Map