Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
Galwyd y neuadd fawr ym Mhrifysgol Bangor ar ôl gŵr o’r enw John Prichard-Jones, a roddodd £15,000 tuag at ei adeiladu. A hwnnw’n enedigol o Ynys Môn, gwnaeth ei gyfoeth drwy fod yn bartner yn siopau adrannol Dickins & Jones yn Llundain, a brynwyd gan Harrods yn 1914.
Dyluniwyd y neuadd fel rhan o brif adeilad y brifysgol gan y pensaer o Lundain, Henry Hare. Prin mae tu fewn i’r neuadd wedi newid ers iddo agor yn 1911. Mae’r electroganwyllyron (y siandelïers trydan) yn dal i hongian o’r nenfwd hyd heddiw, ac mae’r muriau wedi’u leinio â’r panelau wensgot gwreiddiol. Y newid mwyaf sylweddol yw’r organ sydd â mwy na 1,700 o bibellau a osodwyd yn 1973, a ymgorfforodd elfennau organ o gapel Tabernacl, Bangor o 1880.
Ar 23 Awst 1939, wythnos cyn i’r Ail Ryfel Byd ddechrau, bu i’r Oriel Genedlaethol yn Llundain ddechrau symud ei phaentiadau mwyaf gwerthfawr i Fangor, i ddianc rhag y bomiau o’r awyr a oedd ar y gweill. Cadwyd mwy na 500 o baentiadau yn Neuadd PJ, gan gynnwys gweithiau gan Botticelli, Rubens a Rembrandt. Cadwyd eraill yng Nghastell Penrhyn. Dewiswyd y lleoliadau hyn oherwydd eu drysau llydan a’u hystafelloedd mawrion.
Dyluniwyd cerbydau rheilffordd yn benodol ar gyfer symud y paentiadau i orsaf Bangor, ac arnynt oedd milwyr arfog. Yn ogystal, gosodwyd bariau dur ar draws ffenestri neuadd PJ.
Cadwyd y paentiadau ym Mangor tan haf 1941, pan symudwyd hwy gan fod awyrennau’r Almaen yn dilyn arfordir Gogledd Cymru i fomio’r ardaloedd diwydiannol yng Ngogledd-orllewin Lloegr. Ofnai’r awdurdodau y gallai bom grwydr daro Neuadd PJ neu Gastell Penrhyn. I symud y paentiadau i chwarel Manod, Blaenau Ffestiniog, roedd rhaid gostwng y ffordd o 60cm dan rhai pontydd rheilffordd er mwyn gwneud digon o le i bortread Van Dyck o Frenin Siarl I fynd heibio ar gefn ceffyl! Cadwodd y llywodraeth dwnelau addasedig y chwarel tan y 1980au, rhag ofn byddai rhyfel arall.
Mae sawl cenhedlaeth o fyfyrwyr wedi sefyll arholiadau, dawnsio neu fynychu seremonïau graddio yn Neuadd PJ, sydd hefyd â thraddodiad hir o ddarparu adloniant cerddorol i Ogledd-orllewin Cymru. Mae’r enwogion sydd wedi perfformio yma yn cynnwys Aled Jones yn 1984, pan oedd yn fwyaf enwog fel bachgen soprano, a Bryn Terfel mewn cyngerdd yn 2012 i ddathlu canmlwyddiant Neuadd PJ.
Gyda diolch i David Roberts o Brifysgol Bangor, ac Adrian Hughes o Amgueddfa'r Home Front, Llandudno. Cyfieithiad gan Anna Lewis, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor
Cod post: LL57 2DG Map