Llwybr rheilffordd chwarel Porthgain
Dyma lle y mae llwybr yr arfordir yn croesi llwybr rheilffordd chwarel ithfaen Porthgain. Mae adfeilion yr adeiladau (gweler isod) yn atgof o’r rheilffordd ac o orffennol diwydiannol prysur yr ardal.
Am gyfnod o 80 mlynedd, rhwng 1851 a 1931, roedd Porthgain yn bentref diwydiannol ac yn borthladd prysur. Roedd llechi ac ithfaen yn cael eu cloddio gerllaw at ddefnydd lleol ac er mwyn eu hallforio. Roedd briciau yn cael eu cynhyrchu yn y pentref o wastraff llechi.
Ar y cyntaf roedd tramffyrdd wedi’u hadeiladu ar gyfer tramiau a gâi eu tynnu gan geffylau (wageni syml) i gludo’r llechi nadd o’r chwarel (i’r de o’r fan hon) i ben y llethr lle roedd peiriant sefydlog yn gollwng y tramiau i ymyl yr harbwr. Roedd tramffordd arall yn cludo’r gwastraff llechi o’r cytiau naddu i ben y clogwyn a chyn agor y gwaith briciau yn 1899, yn ei ollwng i’r môr. Gwastraff llechi yw’r argloddiau ar ochr y môr.
Dechreuwyd cloddio masnachol ar glogwyn Pen Clegyr yn 1889 i gynhyrchu cerrig adeiladu a cherrig set ar gyfer ffyrdd y trefydd a’r dinasoedd a oedd yn brysur ehangu. Wyneb o ithfaen Porthgain sydd ar y Tate Gallery yn Llundain ac ar amryw o adeiladau cyhoeddus mawr Dulyn. Wrth i drafnidiaeth gynyddu ar y ffyrdd y cafwyd cyfnod mwyaf ffyniannus y chwarel. Cynhyrchid ithfaen mâl o amrywiol faint, o 75 mm (tair modfedd) i lwch, ar gyfer adeiladu heolydd Macadam llyfn.
Y pileri cerrig cyfochrog ger y llwybr oedd yn cynnal y tanc dŵr ar gyfer y locos ager. Yr adeilad briciau agosaf tua’r de oedd y pwysdy, lle y câi’r tramiau llawn eu pwyso. Yr adfail o friciau y tu hwnt i hwnnw oedd yr adeilad lle y cedwid y locos a gwneud gwaith cynnal arnyn nhw.
Mae'r lluniau, diolch i Rob a Caroline Jones, yn dangos: y chwarelwyr a'r tramiau a dynnid gan geffylau; loco stêm yn paratoi i gludo'r wagenni wedi'u llwytho at y peiriannau malu; a loco olaf y chwarel yn y sied locos yn 1951, ddwy flynedd cyn ei sgrapio.
Ryw 50 medr ar hyd llwybr yr arfordir mae’r man lle y mae’r rheilffordd yn ymadael â’r llwybr, ar ochr y môr, ac yn disgyn i gwm dwfn at y chwarel segur. Mae olion rhai o drawstiau’r rheilffordd yn y golwg hyd heddiw ac adfeilion gweithdai’r chwarel a’r efail yno o hyd.
Yr enw lle Porthgain:
Porth ‘aber, glanfa’ a Cain, a allai fod yn enw coll ar y nant sy’n llifo i’r môr yma. Mae Cain (‘teg’) yn enw cyffredin ar afon. Mae’n digwydd, yn ogystal, fel enw personol.
Diolch i Philip Lees, ac i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad