Llwybr tramffordd y cwar, Abereiddi

sign-out

Mae rhan wastad y llwybr troed yn dilyn llwybr tramffordd a oedd ar un adeg yn cludo llechi o’r cwar gerllaw.

Ar y cychwyn, câi’r llechi eu torri o’r llechwedd a’u cludo ar y môr. Ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg helaethwyd y gwaith islaw, gan ffurfio pwll dwfn. Codwyd y llechfeini gan beiriant stêm sefydlog i’r gorllewin o’r cwar (rhwng y pwll a’r môr). Caent eu prosesu wedyn mewn siediau ar safle ychydig i’r dwyrain o’r cwar. Mae olion rhai o’r siediau hyn ac adeiladau eraill y cwar i’w gweld gerllaw’r llwybrau troed.

Aerial view of Abereiddi quarry in 1946Agorwyd y dramffordd yn 1851 ac ar hyd hwnnw y câi’r llechi gorffenedig eu cludo ar hyd y llechwedd i’r dwyrain. Byddai’r ffordd yn gwyro i’r gogledd er mwyn cyrraedd at harbwr Porthgain. Diolch i Lywodraeth Cymru am ganiatâd i ddangos awyrluniau o’r ardal yn 1946. Yn y llun isaf gellir gweld y peiriandy ar ochr chwith pwll y cwar. Yn y llun uchaf gwelir sut mae’r dramffordd yn estyn o’r chwith i’r dde ac yn troi gorifyny i gyfeiriad Porthgain (pen y gornel dde).

Roedd y dramffordd yn 3.6 km. o hyd a 91cm (tair troedfedd) oedd rhwng y cledrau. Yn 1909 daeth injan stêm i symud wagenni ger yr harbwr, lle’r oedd cerrig yn cyrraedd o gwarau eraill. Ceffylau yn unig a weithiai ar dramffordd Abereiddi.

 

Aerial view of Abereiddi quarry tramway route in 1946Adfywiwyd cwarau’r ardal wedi i ŵr busnes o Fanceinion sylweddoli eu potensial yn y 1880au. Roedd ef yn ymwneud â chamlas Manceinion a’i fwriad oedd cludo llechi yn uniongyrchol o Borthgain i Fanceinion.

Ychydig cyn y Rhyfel Byd Cyntaf y cafodd y llechi olaf eu hallforio o Abereiddi. Ffrwydrwyd creigiau i geisio creu harbwr newydd ym mhwll y cwar. Gelwir hwnnw bellach yn “blue lagoon”.

Yn y cyfnod pan oedd llechi’n cael eu hallforio o Abereiddi roedd cerrig calch yn cael eu mewnforio a’u llosgi mewn odynau ger y traeth. Defnyddid y calch i wrteithio’r tir. Dinistriwyd bythynnod ger glan y môr yn 1938; gyrrwyd y môr i fyny’r traeth wrth i storm fawr daro gorllewin Cymru. Bu rhaid i drigolion ffoi rhag llif y dŵr.

Diolch i Derek Elliott, Llywodraeth Cymru, ac i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad a manylion yr enw lle. Mae’r ffynonellau’n cynnwys ‘Gazeteer of Slate Quarrying in Wales’ gan Alun Richards, Llygad Gwalch 2007.

Cod post: SA62 6DT    Map Lleoliad

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button