Safle anghydfod pysgodfa 1845, Aberogwen, ger Bangor
Yn 1845 enillodd pysgotwr lleol frwydr gyfreithiol Dafydd yn erbyn Goliath a sefydlodd hawl y cyhoedd i bysgota islaw marc y llanw i'r gorllewin o'r fan hon. Roedd teulu Pennant o Gastell Penrhyn yn ystyried y lan gyfan fel eu parth neilltuedig. Daethant ag un o gyfreithwyr mwyaf pwerus Prydain i’r llys i'w cynrychioli.
Daeth y lan oddi yma i Fangor dan reolaeth Richard Pennant ym 1784, pan roddodd y Goron (y teulu Brenhinol i bob pwrpas) brydles iddo ef a'i olynwyr ar swyddogaeth beili’r Goron ar gyfer y lan. Tan 2024, roedd Llwybr Arfordir Cymru yn gwneud taith hir tua'r de er mwyn osgoi'r rhan hon o'r arfordir..
Roedd y Pennantiaid eisoes wedi cronni ffortiwn o gynhyrchu siwgr yn Jamaica gan ddefnyddio cannoedd o gaethweision o Affrica erbyn 1784, pan ddechreuodd Richard Pennant, y Barwn Penrhyn 1af, ehangu ei ddylanwad yng Ngogledd Cymru. Roedd porthladd cludo wedi bodoli yn Aberogwen (ceg afon Ogwen) ers canrifoedd, ond ym 1850 cwynodd y Carnarvon and Denbigh Herald am “adfeddiant preifat” gan y Pennantiaid.
Roedd y papur newydd hefyd yn gresynu bod y lan o Aberogwen i Hirael (Bangor) wedi cael ei mapio’n ddiweddar fel “cyfran annatod o barth Penrhyn”. Honai’r papur fod hyn yn “gamfeddiannu preifat” anghyfreithlon. Bu llawer o achosion lle cosbwyd dynion tlawd am “ryw dresmasu dibwys” ar y traeth.
Ar 31 Awst 1844 roedd Hugh Hughes, chwarelwr a gyflogwyd gan y Cyrnol Pennant, yn pysgota islaw llinell y llanw uchel ger y bont haearn bwrw dros yr afon Ogwen pan atafaelodd tri ciper ei rwyd, gwerth £3, a dal Hugh yn gaeth am ychydig o amser. Aeth Hugh â’r achos i Frawdlysoedd Beaumaris, lle ym mis Awst 1845 disgrifiodd cyfres o dystion sut yr oeddent wedi pysgota ers amser maith ar y lan hon, fel y gwnaeth tadau rhai ohonynt.
Cynrychiolwyd y Cyrnol Pennant gan Syr Fitzroy Kelly – cyfreithiwr cyffredinol (solicitor-general) Prydain. Dywedodd Syr Fitzroy wrth y rheithgor mai gwastraff amser oedd yr achos a bod ganddo lwyth o dystiolaeth i brofi bod Hugh yn botsiwr ac yn dresmaswr. Fodd bynnag, canfu’r rheithgor bod gan y cyhoedd hawl i bysgota islaw llinell y llanw uchel, a’r dyfarniad ar y prif fater oedd y dylai Hugh dderbyn iawndal o £5.