Safle maes saethu Fictoraidd, Abergwyngregyn
Safle maes saethu Fictoraidd, Abergwyngregyn
Rhwng llwybr yr arfordir a'r lan yma mae clawdd o bridd wedi'i orchuddio â llystyfiant. Mae'n weddill o faes saethu a sefydlwyd erbyn mis Rhagfyr 1891, pan ddiolchwyd i'r Arglwydd Penrhyn am ddarparu maes saethu yn Abergwyngregyn ar gyfer Corfflu Gwirfoddolwyr Bangor.
Defnyddiwyd y maes saethu hefyd gan filwyr byddin tiriogaethol o du allan i’r ardal, a oedd yn gwersylla gerllaw. Cynhaliwyd cystadlaethau carbin a saethyddiaeth (“musketry”) blynyddol ar y safle dwy erw.
Roedd cenhedlaeth gynharach o wirfoddolwyr Bangor wedi defnyddio maes saethu yn Aber yn y 1860au, ond roedd y lleoliad yn anghyfleus bryd hynny. Roedd yn well gan y gwirfoddolwyr ddefnyddio maes saethu ym Miwmares.
Ym mis Mawrth 1904, cynhaliodd Clwb Reiffl Bangor, a oedd newydd ei ffurfio, ei ymarfer saethu wythnosol cyntaf ar faes saethu Aber. Er gwaethaf y gwynt, fe darodd y newyddian J Humphreys lygad y tarw gyda’i ergydion cyntaf o 200 a 500 llath. Roedd cyd-aelodau’r clwb yn amau nad oedd yn newydd i’r dasg mewn gwirionedd, ond dangosodd ei ergydion diweddarach ei fod wedi mwynhau lwc y dechreuwr!
Ym 1910, sylwodd gofalwr y maes saethu, John Hughes, ar fwg yn codi o gwt y maes. Gwelodd fod y bwrdd marcio a'i fframwaith wedi'u llosgi. Dywedodd dau grwydryn wrtho mai dim ond te oedden nhw wedi bod yn ei wneud. Yn ddiweddarach, fe'u carcharwyd am wythnos.
Defnyddiodd milwyr rheolaidd a gwirfoddol y maes saethu trwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, hyfforddodd Gwarchodlu Cartref Abergwyngregyn yno – gwirfoddolwyr lleol nad oeddent yn gallu ymuno â’r lluoedd arfog ond a oedd yn barod i ymladd yn erbyn unrhyw lu goresgynnol o’r Almaen. Yn ystod y rhyfel fe wnaethant helpu i achub awyrenwyr pan ddisgynodd awyrennau ar fynyddoedd cyfagos.
Ar ddiwedd y 1940au roedd y Swyddfa Ryfel yn bwriadu ymestyn y maes saethu i gwmpasu tua 48 erw, gan gynnwys pwynt tanio dim ond 500 llath o ddiwedd promenâd Llanfairfechan. Roedd cyngor Llanfairfechan yn ofni y gallai hyn niweidio twristiaeth leol.
Defnyddiwyd y maes yn y 1950au a'r 1960au gan gadetiaid a chan wirfoddolwyr bataliynau'r Royal Welch Fusiliers lleol. Roedd bataliwn Conwy yn ymarfer yn rheolaidd trwy fartsio ar hyd yr hen ffordd Rufeinig o Gaerhun yn Nyffryn Conwy dros y mynyddoedd i Aber, gan orffen gydag ymarfer saethu yma. Ar ddiwedd y 1960au ildiodd y fyddin y maes saethu, a ddefnyddiwyd gan Glwb Reiffl Conwy a Chlwb Gwn Dinas Bangor ar gyfer ymarfer a chystadlaethau.
Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa Home Front, Llandudno