Safle mwynglawdd trymfwyn a phier Pompren, Aberdaron
Safle mwynglawdd trymfwyn a phier Pompren, Aberdaron
Roedd y pen hwn i draeth Aberdaron yn safle o brysurdeb diwydiannol ar ddechrau'r 20fed ganrif, pan oedd trymfwyn (“barytes”) yn cael ei gloddio yma, cyn cael ei gludo o bier newydd.
Mae trymfwyn (bariwm sylffad) yn fwyn anhydawdd y gellir ei ddefnyddio at sawl pwrpas. Heddiw, fe’i defnyddir yn bennaf fel hylif wrth ddrilio am olew a nwy. Yn ei ffurf buraf, o liw gwyn, fe'i defnyddir fel llenwad mewn paent, papur a serameg.
Am gyfnodau rhwng 1905 a 1913, ac am gyfnod ym 1918, chwarelwyd trymfwyn i'r dwyrain o Afon Saint. Er, mae tystiolaeth bod hyn yn digwydd yn llawer cynt na hynny. Mae sôn bod y trymfwyn, a fodolai mewn pocedi bychain, o ansawdd da (hynny yw, roedd yn wyn.)
Ni fyddai mwy na phedwar dyn yn gweithio ym mwynglawdd Pompren ar unrhyw adeg. Yn y dechrau, cawsai’r trymfwyn ei lwytho ar longau ar y traeth.
Ym 1905 gwnaeth Evan J Evans, cemegydd o Aberystwyth, gais i adeiladu pier tua 90m o hyd, a ymestynnai gyn belled â’r dŵr isel. Mae'n ymddangos bod tramffordd yn rhan o’r pier, a hynny er mwyn llwytho’r trymfwyn yn syth i longau. Mae i'w weld ym mhen pellaf y traeth yn yr hen lun (hawlfraint: Gwasanaeth Archifau Gwynedd). Gellir gweld rhan ohono yn yr hen lun ar ein tudalen am Dŷ Tan yr Allt (y smotyn gwyn ar ochr y bryn y tu hwnt i'r pier yn y llun ar y dudalen hon).
Parhâi'r pier mewn cyflwr da ym 1921, ond fe’i dymchwelwyd yn ddiweddarach. Mae modd gweld gweddillion y pier ar lanw isel: dwy res o fonion pren ar y traeth.
Roedd melin, a gâi ei phweru gan ddŵr, yn malu’r trymfwyn yn bowdr ar y lan, fymryn uwchben y dŵr uchel. Mae olion ohoni i'w gweld o hyd.
Roedd Evan yn berchen ar y pwll tan 1911. Ym 1908 cafodd ddirwy o £1 am storio peli gelignite mewn sied anghofrestredig heb ei chloi. Honnodd wrth yr ynadon ei fod yn ddyn tlawd yn darparu gwaith i bobl leol, a bod y ddirwy yn ormodol oherwydd bod y gelignite yn ddiniwed oni bai ei fod wedi ei gysylltu gyda taniwr (“detonator”). Yn ogystal â gweithio â thrymfwyn, chwarelodd Evan galchfaen ym Mynydd Mawr cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gair am bont droed bren yw ‘pompren.’ Mae'n debyg yr arferai un fod dros Afon Saint ger y draethlin.
Ymhlith perchnogion diweddarach y pwll roedd J Crichton o Hackney, 1912; Llŷn Mines Ltd, cwmni o Lundain, 1913-1915; Henry Lloyd, 1915; a Colin McNeal o Fenton, Stoke-on-Trent, 1918.
Diolch i Michael Statham, o Fforwm Cerrig Cymru, ac i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad. Hefyd i Wasanaeth Archifau Gwynedd am y llun
Gwefan Gwasanaeth Archifau Gwynedd