Golygfan Mynydd Mawr, ger Uwchmynydd

Golygfan Mynydd Mawr, ger Uwchmynydd

Mae gan y tir uchel hwn ar ben mwyaf gorllewinol tir mawr gogledd Cymru olygfeydd o’r môr, Ynys Enlli, a gweddill Penrhyn Llŷn. Pan fo’r tywydd yn glir, gallwch weld mynyddoedd Wicklow ar y gorwel.

Gyda’r golygfeydd mor helaeth, nid yw’n syndod i awdurdodau Oes Fictoria ddewis y fan hon ar gyfer sefydlu man gwylwyr y glannau, a ddisgrifir ar fap o 1901 fel “gorsaf signalau semaffor.”

Aerial photo of Mynydd Mawr radar station in 1945Mae pwt yn y wasg ym 1893 yn dweud bod modd defnyddio’r wifren delegraff newydd mewn tywydd stormus “er mwyn achub bywyd ar yr arfordir creigiog a’i holl beryglon.”

Defnyddiwyd yr orsaf yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac fe’i huwchraddiwyd tua 1940, pan ddechreuodd yr Almaen anfon bomwyr dros Fôr Iwerddon i ymosod ar Lerpwl a thargedau strategol eraill. Yn ystod yr uwchraddio, ychwanegwyd offer radar, lloches i’r milwyr, a gwn newydd. Roedd y radar, ynghyd â sawl radar arall, yn ffurfio gorsaf radar Pen y Bryn, o eiddo’r Llu Awyr Brenhinol.

Mae rhai o’r adeiladau yn parhau hyd heddiw, ac mae seiliau concrit yn dangos lleoliad adeiladau eraill. Mae’r llun, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos yr orsaf ym mis Awst 1945.

Daeth cyfnod y safle ar gyfer gwylio’r glannau i ben ym 1990. Bellach, defnyddir yr hen gwt gan wirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i rannu gwybodaeth ar gyfer ymwelwyr. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar y tir.

I’r de o’r maes parcio ym Mynydd Mawr mae seiliau tri chwt crwn o’r oes gynhanesyddol, yn mesur tua 4 i 4.5 metr yr un mewn diamedr. Mae sylfaen y garnedd ar gopa Mynydd Mawr yn dyddio o’r Oes Efydd.

Oddi tan yr orsaf radar mae chwareli calchfaen segur, a agorwyd o bosibl yn gyntaf i gynhyrchu calch ar gyfer amaethyddiaeth. O 1910 tan y Rhyfel Byd Cyntaf, ceisiodd Cwmni Chwareli Marmor Prydain a Chymru Cyf farchnata'r garreg at ddefnydd pensaernïol, addurnol, coffaol a defnyddiau arall. Ffurfiwyd y cwmni gan Evan James Evans, a oedd hefyd yn gweithredu mwynglawdd trymfwyn bach ger Aberdaron.

Wrth i chi fwynhau’r olygfa ar hyd Penrhyn Llŷn, mae’n amlwg pam y rhoddwyd i’r penrhyn statws Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ym 1957. Mae tîm yr AHNE yng Nghyngor Gwynedd yn paratoi ac yn rhoi cymorth i weithredu cynllun rheoli ar gyfer yr ardal. Mae prosiectau diweddar yn cynnwys adfer arwyddbyst hanesyddol, cerrig milltir, a ffynhonnau. Dilynwch y ddolen isod am ragor o fanylion.

Gyda diolch i AHNE Llŷn am y cyfieithiad

Map

Gwefan AHNE Llŷn

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button