Ffynnon Fair, ger Uwchmynydd
I lawr oddi ar Lwybr Arfordir Cymru mae ffynnon yr arferai pobl ymweld â hi ar lanw isel. Roedd hen goel y byddai eu dymuniad yn cael ei wireddu pe baent yn llwyddo i gario llond ceg, neu lond llaw o ddŵr o’r ffynnon i fyny’r llethr at Gapel Mair.
Mae Ffynnon Fair o dan ddŵr pan fo’r llanw’n uchel, ond mae dŵr croyw yn casglu’n bwll ynddi ar lanw isel.
Isod mae llun o adfeilion capel, gydag Ynys Enlli yn y cefndir, trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Fe’i gwnaed gan Moses Griffiths ar gyfer llyfrau Thomas Pennant am ei deithiau yng Nghymru ar ddiwedd y 18fed ganrif.
Mae Pennant yn sôn am ffyddloniaid yn troedio’r “llwybr hiraf a mwyaf peryglus i gael llond ceg o’r Ffynnon.” Pe baent yn cludo’r dŵr yn ddiogel i gopa Maen Melyn “fe gâi eu dymuniad, beth bynnag ydoedd, ei wireddu.” Digwyddai hyn o dan warchodaeth y Santes Fair.
Codwyd y capel, meddai Pennant, yn noddfa i forwyr i alw ar y Santes Fair i’w hamddiffyn ar ddyfroedd peryglus Swnt Enlli, y môr rhwng y fan hon a’r Ynys. Does dim i’w weld o’r capel bellach, ac eithrio ambell glawdd sy’n olion o’r sylfeini. Yn ôl Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, mae’r sylfeini crwn yn y pen gorllewinol, ynghyd â'r gweddillion yn narlun Moses Griffiths, yn awgrymu bod gan y capel dŵr. Mae’n bosibl mai pwrpas y tŵr oedd ei gwneud hi’n haws i forwyr ar y môr weld yr adeilad.
Yn ôl erthygl ym mhapur newydd Cymry America Y Drych ym 1914, arhosodd pererinion yn y capel i gael gorffwys ac i ofyn i’r Santes Fair eu bendithio â thaith ddiogel i Ynys Enlli. Mae sôn bod y capel wedi’i lenwi ag addurniadau, rhoddion o ddiolchgarwch a cherrig coffa i seintiau ymadawedig (roedd yr holl Gristnogion a deithiodd i Ynys Enlli i farw yn cael eu hystyried yn seintiau).
Ym 1904 cwympodd merch yn ei harddegau, a oedd yn ferch i farnwr ym Manceinion, i’r môr ger Ffynnon Fair, a boddi. Cynhaliwyd ei chwest yng Ngwesty Tŷ Newydd, Aberdaron.
Gyda diolch i Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, ac i i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad
Mwy o hanesion teithio Thomas Pennant – gwefan Llyfrgell GEnedlaethol Cymru