Gorsaf bad achub Porthdinllaen
Gorsaf bad achub Porthdinllaen
Adeiladwyd y tŷ bad achub gwreiddiol a llithrfa ym Mhorthdinllaen pan sefydlodd y RNLI orsaf yma yn 1864. Uwchraddiwyd y cyfleusterau ym 1888 a 1925, pan ymestynwyd y llithrfa.
Mae'r hen luniau (trwy garedigrywdd y RNLI) yn dangos yr orsaf a’r llithrfa efo’r bad Barbara Fleming (a oedd yma 1902-1926), a bad achub modur cyntaf yr orsaf, ON695 M.O.Y.E. (1926-1949).
Ar 20 Medi 1975, doedd y llywiwr, Griffith J Jones, ddim efo’r criw pan alwyd ar y bad achub i chwilio am ddau o bobl a oedd ar goll o tendr cwch hwylio, mewn gwyntoedd cryf. Drwy lwc pur, daeth car yn agos at y lan a throi, gan oleuo’r dŵr am ddigon hir i Griffith i sylwi ar ddyn yn glynu wrth graig ger y tŷ cychod. Fe aeth o a'i fab Eric, 14 oed, allan i'r môr garw mewn cwch bach ac achub y dyn. Am y gamp o ddewrder yma, rhoddwyd Medal Efydd iddo ac oriawr gydag arysgrif i’w fab.
Cwblhawyd tŷ bad achub newydd, ar gost o £9.8m, in 2014, yn gartref i’r bad dosbarth Tamar John D Spicer. Cludwyd deunyddiau adeiladu at y safle dros y môr, oherwydd natur y ffordd sy’n arwain at y safle.
Darperir gwasanaeth bad achub y DU nid gan y llywodraeth ond gan elusen yr RNLI. Ers ei sefydlu ym 1824, amcangyfrifir i’r RNLI achub tua 140,000 o fywydau. Mae’n cyflogi rhai aelodau criw on mae’r mwyafrif, rhyw 40,000, yn wirfoddolwyr sy’n gadael eu gwaith, teuluoedd neu gwelyau i ateb galwadau brys.
Nodyn ar yr enw lle:
Cofnodwyd Dinllaen fel Dynthlen oddeutu 1300. Roedd enw’r cwmwd yn cyfeirio at fryngaer (din). Daw ail elfen Dinllaen o enw llwyth y Lageni – cofnodwyd fel Lhein oddeutu 1191. Mae hyn hefyd yn parhau yn yr enwau Llŷn a Leinster (Iwerddon).
Gyda diolch i’r Athro Hywel Wyn Owen o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru am fanylion yr enw lle
Cod post: LL53 6DB Map