Safle chwarel gydweithredol, Porth y Pistyll ger Aberdaron

Safle chwarel gydweithredol, Porth y Pistyll ger Aberdaron

Aerial photo of Porth y Pistyll in 1961Am gyfnod yn yr 20fed ganrif cafodd carreg dolerite ei gweithio yma gan gwmni cydweithredol wedi ei ffurfio gan griw o newyddiadurwyr – mewn ymdrech i “chwyldroi sefyllfa y gweithiwr”. Gellir gweld rhai o olion y diwydiant hyd heddiw – hen wal yr harbwr, olwyn peiriant mewn cae ger Llwybr Arfordir Cymru, rhan o graen (llun isod) a thai anorffenedig ar gyfer y gweithwyr yn Bodermid Isaf.

Mae’r llun o’r awyr, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos gweddillion yr harbwr yn 1961.

Aiff yr hanes yn ôl i tua 1901 pan ddechreuodd Hugh Evans chwarel fach yn gwneud cerrig set.  Yn 1904/1905 cododd lanfa o bren a cherrig ym Mhorth y Pistyll, a gosododd craen stêm er mwyn llwytho cynnyrch y chwarel i longau ar y môr.

Daeth y fenter i sylw Charles Sheridan Jones (1874-1925), newyddiadurwr a fu’n sylwebu ar streic Chwarel y Penrhyn ym Methesda ar gyfer y Daily News. Cynhyrchod daflen “What I saw at Bethesda” oedd yn argymell creu cwmniau cydweithredol i redeg chwareli llechi.

Photo of crane remnants at Porth y Pistyll

Ni chafodd fawr o lwyddiant gyda’r llechi oherwydd dirwasgiad yn y diwydiant adeiladu, ond sylwodd fod y galw am lonydd gwell yn creu marchnad i’r garreg galed dolerite. Yn 1907 cofrestrwyd y Co-operative Granite Quarries Ltd gyda Charles fel rheolwr cyfarwyddwr a thri cyfarwyddwr arall (gweler y troednodiadau). Roedd gan y cwmni gyfalaf o £10,000 a £5,000 mewn stoc benthyciadau. Byddai gweithwyr yn cael cyfran o’r elw ar ben eu cyflog. Newidiwyd y cei am wal harbwr o garreg.

Oherwydd trafferth i ddenu gweithwyr profiadaol i’r ardal sefydlwyd is-gwmni o’r enw The Aberdaron Co-operative Housing Society yn Ionawr 1908. Bu i’r pensaer ymgynghorol, Harold Clapham Lander, a oedd yn arloeswr ym mudiad y Garden City, gynnig cynllun oedd yn cynnwys 91 o dai ar hyd stryd goediog ar dir amaethyddol cyfagos, gyda llain pentref ac ystafell ddarllen.

Bwriad is-gwmni arall, The Coal Consumers’ Pioneer Society, oedd darparu glo rhad i drigolion Aberdaron drwy ei gludo yn uniongyrchol o bwll glo a fyddai’n ail-agor ger yr Wyddgrug.

Ar 18 Ionawr 1908, cyhoeddodd y Financial Times erthygl feirniadol am weithgareddau codi arian y fenter. O’r herwydd, ni fu rhagor o fuddsoddi. Collodd Charles achos enllib yn yr Uchel Lys yng Ngorffennaf 1909. Aeth yn fethdalwr, ar ôl suddo llawer o'i arian ei hun yn y fenter. Dyma, i bob pwrpas, oedd diwedd y fenter yn Aberdaron a chafodd y cwmnïau eu dirwyn i ben yn swyddogol yn 1915.

Photo of harbour wall at Porth y Pistyll

Yn y 1930au bu i Frank Jackson ailagor yr harbwr a'r chwarel gan wneud nifer o welliannau i’r cyfleusterau yno. Ym 1935 fe laddwyd un o’r chwarelwyr gan gwymp cerrig fawr ond llwyddodd bachgen 15 oed, a oedd yn yr efail islaw, i oroesi gydag ambell grafiad a chlais yn unig. Daeth y gwaith i ben yn fuan wedyn a gadawyd cannoedd o setiau a nifer o gyrbau ar y safle. Mae sôn bod nifer wedi eu defnyddio i wneud llefydd tân mewn tai lleol.

Gyda diolch i Michael Statham, o Fforwm Cerrig Cymru, am yr wybodaeth a’r lluniau, ac i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad 

Map

Gwefan AHNE Llŷn

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button

Troednodiadau: Cyfarwyddwyr eraill y Co-operative Granite Quarries Ltd

Y cadeirydd oedd William Walter Crotch, newyddiadurwr a ysgrifennodd The Cottage Homes of England yn 1901 oedd yn adroddiad deifiol ar gyflwr tai cefn gwlad Lloegr. Roedd hefyd yn gyd-sylfaenydd Farrow’s Bank, a adweinid fel “Banc y Bobl” a sefydlwyd er mwyn cynnig i fuddsoddwyr bychain gyfraddau llog mwy ffafriol na banciau eraill. Cafodd ef, a’i gyd-sylfaenydd, eu carcharu pan aeth y banc i’r wal yn 1920.

Brawd ieuengaf yr awdur GK Chesterton oedd Cecil Edward Chesterton (1879-1918), un o’r cyfarwyddwyr. Roedd wedi hyfforddi fel syrfëwr ond fe’i perswadiwyd gan Ada Elizabeth Jones, chwaer Charles Sheridan Jones, i fod yn newyddiadurwr. Aeth yn ei flaen i fod yn olygydd y New Witness gydag Ada yn ei gynorthwyo. Yn 1916 ymunodd â'r fyddin fel milwr preifat a phriododd gydag Ada. Cafodd ei glwyfo deirgwaith yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a bu farw mewn ysbyty yn Ffrainc yn Rhagfyr 1918, gydag Ada wrth erchwyn ei wely.

Y pedwerydd cyfarwyddwr oedd yr undebwr llafur Sidney Stranks, a fu yn ddiweddarach yn eistedd ar Gyngor Sir Llundain.