Lleoliad ymadael y pererinion, Porth Meudwy

Lleoliad ymadael y pererinion, Porth Meudwy

Yn ôl yr hanes, arferai’r pererinion hwylio o’r fan hon i Ynys Enlli. Ar ôl cerdded trwy ogledd Cymru i Aberdaron, arferent orffwys a bwyta cyn cymal olaf y daith.

Old photo of Porth Meudwy

Mae'r cildraeth yn agosach at yr ynys nag at Aberdaron, ac mae mwy o gysgod rhag y prifwynt, sy’n sicrhau bod modd i gychod gychwyn ar eu taith yn fwy diogel. Mae sôn bod tri phererindod i Ynys Enlli gyfystyr ag un pererindod i Rufain. Aethai rhai yno i farw. Yn ôl y chwedl, mae 20,000 o seintiau (Cristnogion cynnar) wedi'u claddu ar yr ynys.

Glaniodd saith morwr ym Mhorth Meudwy ym mis Hydref 1917, wedi iddynt oroesi ymosodiad ar eu llong ager gan long danfor Almaenig yr wythnos flaenorol. Cyraeddasant y lan ym mad achub y stemar, yn wan gan newyn. Cawsant fwyd poeth gan drigolion lleol, ac fe sychwyd eu dillad. Aethant yn eu blaen ar fws i Bwllheli, cyn anelu am Lerpwl.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, aethai’r amaethwr a'r pysgotwr John Evans ag ymwelwyr ar deithiau i Ynys Enlli yn ei gwch. Ym mis Mehefin 1955 roedd wrthi’n tynnu ei gwch i fyny'r llithrfa hon pan fu i’w dractor droi ar ei hochr, gan ei ladd yn y fan a’r lle.

Mae Glenda Carr yn arbenigwr ar enwau lleoedd, ac mae wedi awgrymu nad oedd meudwyon ganrifoedd yn ôl mor gaeth i neilltuaeth i’r graddau na fyddent yn byw wrth ymyl llwybrau pererinion. O’r herwydd, mae’n bosibl y byddai meudwyon a drigai yma yn derbyn rhoddion achlysurol gan bererinion fel diolch am weddïo am daith ddiogel dros Swnt Enlli, sy'n gwahanu'r ynys oddi wrth y tir mawr.

Mae enw Cymraeg arall am ‘feudwy’, a ddefnyddid gan feirdd ganrifoedd yn ôl, sef ‘ermid’, gair sy’n deillio o eremite mewn Saesneg Canol. Enwyd ffermydd gerllaw yn Bodermid Uchaf a Bodermid Isaf. Cofnodir yr enw fel Bodermitt yn yr 16eg ganrif, ac mae'n debyg ei fod yn dynodi aelwyd (Bod-) meudwy.

O Borth Meudwy gallwch weld Ynys Gwylan-fawr ac Ynys Gwylan-fach.

Gyda diolch i Glenda Carr, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, ac i Rhiw.com am wybodaeth a'r hen lun. Hefyd i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad 

Map

Gwefan AHNE Llŷn

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
Pilgrim's Way Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button