Hen chwarel maen iasbis, Mynydd Carreg, ger Aberdaron
Hen chwarel maen iasbis, Mynydd Carreg, ger Aberdaron
Roedd maen iasbis, sy’n cael ei ystyried fel carreg lled-werthfawr, yn cael ei chwarela ym Mynydd Carreg, ger Porthor ar un adeg. Mae'r safle i'w weld ar draws y caeau wrth edrych i'r de-orllewin o faes parcio Porthor.
Craig fetamorffig yw maen iasbis a ffurfiwyd ar ddiwedd y cyfnod Neoproterosöig Cyn-Gambriaidd, rhwng 1,000 miliwn a 541 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Ym 1901 darganfuwyd gwythiennau o faen iasbis hyd at 37 metr (40 llath) o led ar waelod Mynydd Carreg. Mae maen iasbis hefyd yn dod i’r brig ar y clogwyni môr gerllaw.
Gwnaed y darganfyddiad gan grŵp o fwyngloddwyr a oedd yn cynnwys y peiriannydd mwyngloddio Capten John Trevethan o'r Rhyl. Soniodd fod y rhan fwyaf o’r maen iasbis yn goch-lliw-ceirios, a peth ohono’n binc, yn felynaidd, neu bron yn wyn.
Tynnwyd sylw arbenigwyr cerrig o Birmingham at y samplau, ac fe ofynnwyd am ddarnau mân pellach. Fe'u syfrdanwyd pan ddywedwyd wrthynt fod tunnelli, yn hytrach nag ownsys, ar gael! Roedd tunnell eisoes wedi'i hanfon i Lundain. Ym 1905 anfonwyd bloc yn pwyso 11 tunnell i Lundain.
Cawsai maen iasbis ei chwarela yma ar raddfa fechan rhwng 1904 a 1907, cyn y dechreuodd y gwaith i ehangu. Mae’n rhaid bod y garreg yn ddrud i'w danfon, gan fod yn rhaid ei dynnu c.32km (tua 20 milltir) gydag injan dyniant at y rheilffordd ym Mhwllheli! Cwympodd pont, a oedd c.1km i ffwrdd, o dan bwysau yr injan yn tynnu’r iasbis. Mae'r llun uchaf, trwy garedigrwydd Rhiw.com, yn dangos bloc o faen iasbis yng nghanol Pwllheli, ger yr orsaf reilffordd (gyda thŵr Capel y Tabernacl yn y pellter).
Roedd sôn bod maen iasbis o Fynydd Carreg dros ddwywaith mor gryf â gwenithfaen, a’i fod yn gallu gwrthsefyll effaith y tywydd mewn unrhyw hinsawdd. Mae'n dal i orchuddio waliau allanol llawr gwaelod adeilad Undeb Norwich ar gornel St James Street a Piccadilly yn Llundain. Agorodd yr adeilad ym 1908, ac mae i’w weld yn y llun hwn trwy garedigrwydd Dr Ruth Siddall. I bob pwrpas rhoddwyd gorau i’r gwaith yn fuan wedi hynny, ond mae cofnodion yn dangos bod y chwarel yn cyflogi 18 o bobl eto ym 1914.
Gyda diolch i Michael Statham a Dr Ruth Siddall, o Fforwm Cerrig Cymru, ac i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad
Cod post: LL53 8LH Map
Gwefan Rhiw.com - mwy o hanes Pen Llŷn
Troednodiadau: Mwy am y maen iasbis
Disgrifir maen iasbis Mynydd Carreg fel marmor dolomitig (calsiwm magnesiwm carbonad yw dolomit), er bod cyfansoddiad y graig yn gymhleth, ac mae'n debyg ei fod yn cynnwys cryn dipyn o ddeunydd siliceaidd. Mae'r lliw yn amrywio, gyda’r coch i’w weld oherwydd yr haearn ar ffurf haematite, a’r lliw pinc i’w weld oherwydd y rhodochrosite.