Safle llongddrylliad y Stuart, Porth Colmon

Safle llongddrylliad y Stuart, Porth Colmon

porth_colmon_stuart_wreck

Ym mis Ebrill 1901, tarodd llong hwylio oedd yn cario wisgi a nwyddau eraill greigiau ger Porth Colmon. Roedd y llong hithau’n chwalu, a’r trigolion lleol ar ben eu digon yn helpu eu hunain i’r holl nwyddau!

Megis cychwyn ar ei mordaith hir o Lerpwl i Wellington, Seland Newydd oedd y llong haearn, a elwid yn Stuart. Cawsai’r criw hi’n anodd gweld oherwydd y tywydd, ac ar ôl camgymeriad mordwyo aeth y llong yn sownd ym Mhorth Tŷ Mawr. Goroesodd pob un o’r 19 aelod o’r criw.

Anfonwyd y casglwr tollau Mason Cumberland o’i swyddfa yng Nghaernarfon, “gyda chymorth”,  i amddiffyn cargo’r llong. Fodd bynnag, roedd nwyddau o bob math wedi diflannu o’r lan erbyn iddo gyrraedd. Cafodd llestri cain, gorchuddion llawr a phianos, hyd yn oed, gartrefi newydd ar Benrhyn Llŷn yn hytrach na Seland Newydd. Claddwyd rhai o’r nwyddau gwerthfawr mewn tyllau cwningod tra bod dynion y Tollau yn chwilio’r ardal.

porth_colmon_whisky_from_wreck

Mae’r lluniau, trwy garedigrwydd Rhiw.com, yn dangos y llong wedi ei dryllio, yn ogystal â photel lawn o wisgi a jwg oddi ar y Stuart, dros 110 mlynedd yn ddiweddarach.

Er na fu farw neb yn y llongddrylliad, cafwyd rhybudd o berygl y môr eto ym 1949 pan foddodd y geiriadurwr John Bodvan Anwyl yma tra’n trochi. Ganwyd Anwyl yng Nghaer ym 1875 i rieni Cymraeg, ac roedd yn hyddysg mewn sawl iaith.

Daeth diwedd ar ei yrfa addawol yn y weinidogaeth pan ddaeth salwch i’w ran a’i adael yn fyddar yn 25 oed. Treuliodd 15 mlynedd yn gweinidogaethu pobl fyddar ym Morgannwg, yn ogystal â rhedeg Sefydliad Pobl Mud a Byddar Pontypridd.

Rhwng 1913 a 1937 golygodd 18 rhifyn o eiriadur Cymraeg-Saesneg Spurrell, gan gynnwys fersiynau cryno a fersiynau ysgol. Ei gyfraniad sylweddol olaf oedd cywain gwybodaeth ynghyd gan bobl ledled Cymru ar gyfer geiriadur Cymraeg safonol newydd wedi’i seilio ar Eiriadur Saesneg Rhydychen. Ymddeolodd a symud i dyddyn yn Llangwnnadl, ger Porth Colmon, cyn boddi ym mis Gorffennaf 1949.

Gyda diolch i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad

Map

Mwy o wybodaeth am y Stuart a lluniau – gwefan Rhiw.com

Gwefan AHNE Llŷn

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button