Safle gorsaf gebl, Abergeirch
Yn y gorffennol roedd ceblau telegraff a cheblau ffôn o Iwerddon yn dod i'r lan yn y gilfach hon. Gosodwyd y gebl telegraff gyntaf rhwng y fan hon a Newcastle yn sir Wicklow ar ddiwedd 1886 gan Y Swyddfa Bost.
Yn 1913 gosodwyd cebl ffôn rhwng Abergeirch a Howth, ger Dulyn. Roedd y gebl yn 74 milltir o hyd, hon oedd gebl ffôn tanfor hiraf y byd pan gafodd ei gwblhau.
Yn flaenorol roedd negeseuon ffôn rhwng Prydain ac Iwerddon yn mynd trwy gebl tanfor rhwng yr Alban a Swydd Down, Iwerddon - llwybr hir ar gyfer y rhan fwyaf o alwadau. Ar ôl gosod cebl yn llwyddiannus rhwng Lloegr a Gwlad Belg, penderfynodd y Swyddfa Bost ar lwybr byrrach ar gyfer cyfathrebu ar draws Môr Iwerddon.
Ar ôl dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, anfonwyd milwyr or 6ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig i Abergeirch i warchod yr orsaf geblau. Ar fore Nadolig 1914, derbyniodd pob milwr barsel a oedd yn cynnwys Y Beibl yn Gymraeg, sigaréts neu bibell a thybaco, siocled, crys, sanau ac eitemau eraill. Daeth yr anrhegion gan ferched yng Nghaernarfon, Bangor ac Ynys Môn ac Urdd Gwnio y Frenhines Mary.
Pan sefydlwyd Gwladwriaeth Rydd Iwerddon ym 1922, roedd gorsaf Abergeirch yn dal i ymdrin â negeseuon drwy dri cebl telegraff a chêbl ffôn. Mae'r hen gerdyn post yn dangos yr orsaf gebl, gyda gwartheg ar y traeth y tu ôl iddo. Mae’r llun isaf, gyda hawlfraint Gwasanaeth Archifau Gwynedd, yn dangos y polion telegraff a’r gwifrau oedd yn arwain at yr orsaf.
Weithiau byddai pethau o longddrylliadau yn cael eu golchi i'r lan yn Abergeirch, gan gynnwys ambell i gorff. Yn 1900 cludwyd casgenni o wisgi i'r lan oddi ar long hwylio yr Embleton, a dorrwyd yn ei hanner gan long Cunard. Suddodd y gwch a chollwyd 11 aelod o'r criw. Yn ddiweddarach daeth gwylwyr y glannau o hyd i 26 casgen o wisgi wedi'u claddu, neu guddio, ar hyd y rhan hon o'r arfordir. Yn ôl yr hanes dywedodd un hen wraig na fyddai yn ildio’i chasgen heb gael tâl o £40, ond gorchmynnodd prif swyddog y Tollau iddi ei rhoi neu gael 40 mis o garchar!
Gyda diolch i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad
Gwefan Gwasanaeth Archifau Gwynedd