Eglwys Martin Sant, Lacharn
Mae’r eglwys hon y pen arall o’r dref o’r castell Normanaidd. Mae hynny’n awgrymu fod yr eglwys yno cyn y cyfnod Normanaidd. Dyna a awgrymir, yn ogystal, gan y groes o garreg a gafodd ei darganfod yma (gweler y llun isod). Bellach, mae’r groes a’i cherfwaith cain o’r ddegfed ganrif, i’w gweld yn yr eglwys.
Roedd cred bod un o’r ffynhonnau gerllaw’r eglwys yn adfer golwg y deillion. Mae’n bosibl fod y safle yn gysegrfan cyn iddi gael ei mabwysiadu gan Gristnogion. Mae naddu hardd ar y garreg yn ogystal â maint enfawr y plwyf gwreiddiol yn awgrmu bod Eglwys Martin Sant yn eglwys o bwys – mam eglwys y plwyfi a dyfodd o’i hamgylch mewn cyfnod diweddarach.
Mae’r beddrodau ym mhen uchaf y fynwent yn dyst o gyfoeth pobl leol ar un adeg. Ymhlith y rheini sydd wedi eu claddu yma, mae’r bardd Dylan Thomas a drigai yn Lacharn yn ystod pedair blynedd olaf ei fywyd. Nodir ei fedd gan groes wen o bren ger canol yr estyniad i’r fynwent (wedi croesi’r bont).
Mae’n bosibl bod eglwys wedi’i hadeiladu o gerrig yma o gyfnod cynnar iawn. Codwyd eglwys newydd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg gan Syr Guy de Brian, arglwydd y faenor. Mae sgrin addurniadol yr eglwys wedi ei diogelu – yr enghraifft hynaf o’i bath yn ne-orllewin Cymru. Mae Ffenestr y Gardys, chwedl llawlyfr yr eglwys, yn cynnwys ychydig o wydr lliw o’i eglwys ef ac yn coffáu ei ddyrchafiad i’r urdd farchogol. Mae’r eglwys groesffurf bresennol yn perthyn i’r bymthegfed ganrif.
Mae’r cofddelwau hynod ar y tu mewn yn coffáu’r Barnwr Syr John Powell, Plas Broadway. Llywyddodd ef yn achosion saith o esgobion yn ystod teyrnasiad Iago II. Yn y pen draw parodd rhyddhau’r esgobion bod Iago II yn ffoi. Cafodd ef ei olynu gan William III, a William a ganiataodd gynnal marchnadoedd wythnosol a feiriau blynyddol yn Lacharn. Arwydd o ddiolch, hwyrach. Mae’r ddogfen gymeradwyo a’i sêl i’w gweld yn neuadd y dref.
Un o’r cyn-glerigwyr oedd William Thomas (1638-1677). Yn ôl yr hanes cafodd ei fygwth â phistol a’i droi allan o’r eglwys gan filwyr Cromwell. Agorodd ysgol yn Lacharn cyn ail-gydio yn ei ddyletswyddau eglwysig. Bu’n esgob Tyddewi ac wedi hynny yn esgob Caerwrangon.
Thomas Phillips (1706-1748) a drefnodd blannu’r coed yw yn y fynwent yn 1720. Yr enw ar yr ywen agosaf at yr eglwys oedd ‘coeden y cadno’. Roedd pennau cadnoid, moch daear, cathod gwyllt a thylluanod yn cael eu rhoi arni wedi iddyn nhw gael eu dal gan y rheini oedd yn derbyn tâl am eu difa.
Ef, yn ogystal, oedd yn gyfrifol am osod y côr o chwe chloch (sy’n dal i gael eu canu) ac am gomisiynu lliain cain ar gyfer yr allor. Y gymwynas fwyaf arwyddocaol o’i eiddo, o bosib, oedd penodi Griffith Jones yn gurad ac ysgolfeistr yn 1709. Byddai grym ei bregethu yn denu cynulleidfaoedd o ryw 3,000, felly byddai’n pregethu y tu allan i’r eglwys yn gyson – o’r porth gogleddol yn ôl yr hanes. Roedd yn un o wŷr mwyaf dylanwadol Cymru’r ddeunawfed ganrif,
Diolch i Peter Stopp, ac i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Cod post: SA33 4QE Map
Gwefan Laughrne Lines – rhagor o wybodaeth am yr eglwys a’r dref