Capel Coffa Peter Williams, Pentywyn
Cafodd y capel hwn ger traeth Pentywyn, ei adeiladu i’r Methodistiaid Calfinaidd yn 1896 i goffáu Peter Williams (1723-1796). Bu Peter Williams farw ganrif cyn codi’r capel a gwnaeth gyfraniad o bwys at faes cyhoeddi Cristnogol yng Nghymru.
Ganed Peter (llun ar y chwith) gerllaw Lacharn. Ac yntau’n blentyn, cafodd ei gludo gan ei fam i Landdowror i wrando ar Griffith Jones, y pregethwr enwog a’r diwygiwr cymdeithasol. Yn ystod ei gyfnod yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin cafodd Peter ei ysbrydoli gan bregethu George Whitfield. Yn fuan ar ôl graddio daeth yn gurad Eglwys Gymyn ac yn ddiweddrach sefydlodd Gapel Heol Dŵr yng Nghaerfyrddin.
Teithiodd ar hyd a lled y wlad yn pregethu. Pregethodd yng nghapel canoloesol y Mariners yn Lacharn, a oedd wedi’i fabwysiadu gan fudiad y Morafiaid. Mudodd y gynulleidfa honno i’r capel ar y bryn ym mhentref canoloesol Pentywyn yn 1810. Gwnaed defnydd o’r capel hwnnw gan y Methodistiaid Calfinaidd yn ogystal. Mae tai hŷn yn dal yng nghyffiniau eglwys St Margaret yn yr hen bentref. Nid tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif y datblygodd glan môr Pentywyn a hynny yn sgil twristiaeth. Yma y codwyd capel y 1890au.
Yn aml câi Peter ei feirniadu’n chwyrn am ei arddull bregethu ‘Fethodistaidd’. Cyfraniad reit sylweddol ganddo ym maes cyhoeddi Cymraeg oedd ei argraffiad o’r Beibl. Trwy gynnwys sylwadau o’i eiddo ef ei hun, galluogodd ei gynulleidfa i gael gwell dealltwriaeth o’r Ysgrythur. Llwyddodd i lacio cyfyngiadau hawlfraint gan ganiatáu argraffu rhatach yng Nhaerfyrddin.
Ymgartrefodd yn Llandyfaelog ac mae wedi’i gladdu yno. Flwyddyn wedi codi’r capel, cyflwynwyd y ganhwyllarn a ddefnyddiwyd gan Peter wrth iddo olygu ei nodiadau Beiblaidd i’r capel, gan un a oedd yn byw yn ei hen gartref. Mae honno’n dal ym meddiant y capel.
Diolch i Peter Stopp, Haydn Wood a David Thorne, ac i Gyngor Cymuned Pentywyn am ariannu’r cyfraniad hwn
Cod post: SA33 4PF Map y lleoliad