Eglwys Sant Margaret, Eglwys Gymyn, ger Pentywyn

Photo of Eglwys Gymyn preaching cross

Mae’r eglwys o fewn bryngaer clawdd triphlyg o’r Oes Efydd (2000–650 CC). Mae honno’n rhannol weladwy hyd heddiw. Tan y bedwaredd ganrif ar ddeg dyma oedd canol y pentrefan. Mae olion yr adeiladau canoloesol, gan gynnwys Llysty’r Faenor, i’w gweld mewn cae gerllaw.

Mae’n bosibl bod y safle yn cael ei defnyddio ar gyfer defodau crefyddol, cyn i Gristnogion ei ddefnyddio ar gyfer addoli yn yr awyr agored, gerllaw’r groes bregethu ganoloesol hynafol (yn y llun). Mae honno bellach yn ymyl y llwybr at yr eglwys. Mae’r enw Eglwys yn hytrach na Llan yn awgrymu safle gynnar iawn o bwys. Ystyr yr enw Eglwys Gymyn yw ‘eglwys gymynrodd’. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Margaret yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Yn y wal ogleddol mae porth pigfain a ffenest fechan sy’n arwain at gilfach gul. Cred rhai mai cell ancr oedd hon, lle y byddai meudwy yn neilltuo er mwyn gweddïo a myfyrio – weithiau ar ran noddwr lleol.

Y tu mewn mae fowtiau baril cerrig nodedig a chyfres o destunau wedi’u paentio ar y wal ogleddol.

Yn wahanol i lawer o’r adnewyddu a wnaed yn ystod Oes Fictoria, mae’r gwaith a wnaed yma yn 1900-01 yn hynod o sensitif. Cafwyd cefnogaeth ariannol gan Morgan Jones, Llanmilo. a George Treherne, a chyngor o du’r Gymdeithas er Diogelu Adeiladau Hynafol. Mae’r ffenestri “eithriadol o gain” a gynhyrchwyd yn sgil yr arweinyddiaeth hon wedi diogelu peth o’r gwydr hynafol ac yn cofnodi hanes a chymdeithas yr eglwys.

Mae’r strwythur pren anarferol ym mhen orllewinol corff yr eglwys yn diogelu maen coffa o’r bumed neu’r chweched ganrif (y llun isod) yn Lladin ac Ogam – sef hen wyddor Geltaidd. Cyfieithir yr arysgrif Ladin: ‘Avitoria merch Cunignus’. Darganfuwyd y garreg gan George Treherne ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr arysgrif Ladin yw: AVITORIA / FILIACVNIGNI. Mae’r Ogam yn darllen AVITTORIGES a cheir INIGINACUNIGNI oddi tanodd; fe’i cyfieithir ‘o Avittorix merch Cunignus’.

Photo of Ogham and Latin script on stone at Eglwys Gymyn

Cyflwynwyd Beibl ‘Peter Williams’ i’r eglwys gan George, asiant ystad Westmead. Ar gors Lacharn y cafodd Peter Williams ei eni ac mae’n enwog am iddo gynhyrchu beibl Cymraeg anodedig. Pwysigrwydd hyn yw iddo osgoi cyfyngiadau hawlfraint gan ganiatáu argraffu llawer rhatach. Yn y beibl hwn ceir cofnod i Madam Bevan ei gyflwyno yn wreiddiol i’w merch fedydd. Roedd Madam Bevan o Lacharn yn cefnogi ysgolion cylchynol Griffith Jones yn y ddeunawfed ganrif. Mae’n eironig fod John Evans, y ficer a oedd yma ar yr adeg honno, wedi cael gwared ar Peter Williams, ei gurad ar y pryd. Roedd yn wrthwynebydd ffyrnig i Griffith Jones yn ogystal!

Mae’r groes Geltaidd hir yn y fynwent, a wnaed gan W. Clarke, Llandaf, yn coffáu George. Fe’i lluniwyd o dywodfaen glas Fforest Dena. Mae’r fynwent yn cynnwys, yn ogystal, sawl beddfaen a gerfiwyd gan y saer maen, y cerddor a’r bardd Thomas Morris o Morfa Bychan (i’r deau o’r lle hwn).

Diolch i Peter Stopp ac i Michael Statham o Fforwm Cerrig Cymru, ac i’r Athro Dai Thorne

Cod post: SA33 4PQ    Map

Gwybodaeth am yr eglwys - gwefan Yr Eglwys yng Nghymru

button-tour-CE previous page in tournext page in tour