Safle cartref saer maen 'Snowdrop Marble' ym Morfa Bychan

Old photo showing cottage at Morfa Bychan

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg trigai saer maen o’r enw Tom Morris a’i wraig Jenny yn y bwthyn to cawn a ddangosir yn y llun. Mae olion y bwthyn rhwng y darn concrit o gyfnod yr Ail Ryfel Byd a’r gefnen raeanog – yng nghyfnod Tom roedd y traeth yn estyn cryn dipyn ymhellech i’r bae.

Dewisai Tom y cerrig a ddefnyddiai ar gyfer ei waith yn ofalus iawn. Tystia’r beddfeini mewn mynwentydd lleol i hynny gan nad yw erydu wedi amharu dim arnyn nhw. Mae’r llythrennau lawn mor eglur ag oedden nhw pan dorrwyd nhw gyntaf ganddo yn ei ddull addurnedig. 

Disgrifiwyd un math arbennig o garreg ganddo yn Snowdrop Marble. Mae’n gynnyrch chwareli a oedd yn uwch i fyny’r dyffryn ac yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Portrait of Tom and Jenny Morris of Morfa Bychan

Cafodd Tom ei eni yn 1804 mewn melin ddŵr leol. Ac yntau’n dal yn llencyn, amlygwyd ei ddawn i gerfio cerrig wrth iddo weithio i saer marmor yn Ninbych-y-pysgod. Wedi iddo ymgartrefu ym Morfa Bychan, creodd sawl cofeb, mantell simnai, byrddau a darnau eraill yn ei weithdy y tu allan i’r bwthyn gan ddefnyddio Snowdrop Marble a meini eraill. Mae rhai i’w gweld yn Eglwys Gymyn. Rhaid oedd cludo darnau trymion a gwaith gorffenedig at y man anghysbell hwn ac oddi yno drachefn! 

Yn aml byddai ymwelwyr yn cyrchu at y bwthyn ar noson o haf i wrando arno’n canu baledi tra’n cyfeilio ar y tsielo. I’r rheini oedd yn ei adnabod, ef oedd bardd gwlad Morfa Bychan. Caent groeso gwresog gan Jenny a wisgai wlanen Gymreig a het gopa dal. Byddai hi’n gofalu am wyddau a defaid ar y tyddyn bach. Dyma lun o’r pâr priod yn y 1870au. Cafodd y llun ei dynnu gan yr hynafiaethydd o Sir Gaerfyrddin George Gilbert Treherne. Bu Tom farw yn 1886, a Jenny yn fuan wedyn.

Photo of Gloucester memorial using Snowdrop Marblerble_monument_gloucester_cathedral

Calchfaen llwydaidd/du yw Snowdrop Marble. Mae cregyn gwynion yn cyferbynnu â’r wyneb tywyll pan roir sglein arno. Byddai’n cael ei ddefnyddio ar gyfer cofebau mur a cherrig beddau. Maen nhw i’w gweld o hyd yn eglwysi’r ardal gan gynnwys Eglwys y Santes Fair, Dinbych-y-pysgod. Mae amryw yn perthyn i’r ddeunawfed ganrif, cyn cyfnod Tom. 

Defnyddid Snowdrop Marble yn ogystal ar gyfer lleoedd tân, tyllau simneiau ac i ffurfio sylfaen Cofeb y Tywysog Albert yn Ninbych-y-pysgod. Mae’r llun yn dangos cofeb o’r maen hwn yng Nghadeirlan Caerloyw. Gellir gweld enghreifftiau eraill yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd.

Diolch i Michael Statham ac Andrew Haycock o Fforwm Cerrig Cymru ac i Peter Stopp a Jason Lawday. Cyfieithiad gan yr Athro Dai Thorne

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button