Gwesty'r Llong, Aberdaron

button-theme-crime-W

Roedd yr adeilad hwn, a elwir weithiau yn ‘Ship Hotel’ neu ‘Ship Inn’, yn un o sawl hosteli yn Aberdaron yn darparu ar gyfer pererinion i Ynys Enlli ac ymwelwyr eraill.

aberdaron_ship_hotel_with_donkey

Mae'r hen luniau (drwy garedigrwydd gwefan hanes lleol Rhiw.com) yn dangos sut mae'r gwesty wedi ehangu. Erbyn 1947 roedd ganddo 17 ystafell wely.

Yma y bu John Owen, Esgob Tyddewi, yn aros gyda dwy o'i ddwy ferch yn 1904 wrth ymweld â'i ardal enedigol. Roedd wedi astudio mathemateg a chlasuron yn Rhydychen a bu'n athro Cymraeg yn Llambed. 

Cafodd David Owen, trwyddedai y Llong, ei hun yn y llys ym 1876, wedi'i gyhuddo o werthu alcohol ar ddydd Sul. Roedd PC Davies wedi gweld " John Jones Swyddfa Bost " yn y Llong am 3pm gyda gwydraid o gwrw wrth ei draed! Dywedodd David ei fod wedi rhoi'r cwrw i John fel ffrind, yn hytrach na'i werthu, a gwrthodwyd yr achos.

aberdaron_ship_hotelYm mis Ionawr 1885 cyhuddwyd y trwyddedai Thomas Jones o dresmasu yn Fferm Pwll Defaid "wrth fynd ar drywydd gêm". Dywedodd Richard Jones, sy'n cael ei gyflogi gan y tirfeddiannwr Robert Carreg, ei fod wedi gweld Thomas yn cario gwn tua 5pm wrth gerdded gyda dyn arall a chi. Roedd Robert yn ynad ond ymddeolodd o'r llys ar gyfer yr achos hwn, a gafodd ei daflu allan oherwydd amheuaeth ynghylch bwriadau'r dynion. 

Daeth John Lewis Williams yn drwyddedai'r Llong yn 1908. Bu hefyd yn gynghorydd plwyf ac yn arolygwr trethi lleol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd tri bachgen drwg, pob un o dan 15 oed, ddirwy o 15 swllt yr un am dorri ffenestr yn y Ship Inn yn 1917 - gweithred o ddial am fod John wedi gwrthod gweini cwrw iddyn nhw! Roedd y dirwyon dros £50 yr un yn arian heddiw, ond dywedodd un colofnydd papur newydd y dylai'r bechgyn fod wedi cael eu chwipio hefyd. 

Mae'r gwesty wedi bod yn eiddo i'r teulu Harrison ers 1982.

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL53 8BE    Gweld Map Lleoliad

Gwefan Gwesty’r Llong

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button