Twll Twrw, Blaenplwyf
Yn y fan hon mae Llwybr Arfordir Cymru yn croesi tir a fu ar un adeg yn cael ei ffermio gan fynachod Abaty Ystrad Fflur. Ychydig I’r de ar ymyl y traeth mae Twll Twrw neu Monk’s Cave lle roedd chwyth-dwll a swynai dwristiaid oes Fictoria. Rydym yn cynnwys yr hen ffotograffau o’r ogof a’r creigiau trwy ganiatâd Archifau Ceredigion.
Enw’r fferm yn y fan hon yw Mynachdy’r Graig a ‘craig’ yn cyfeirio mae’n siwr at y nodweddion daearegol arfordirol yn y graig gerllaw. Maenor yn perthyn i Ystrad Fflur oedd y fferm. Roedd hawliau pysgota hefyd gan y mynachod ar hyd yr arfordir.
Creigiau clogfaen (neu glog-glau) sydd yma (gw. y troednodiadau am wybodaeth ddaearegol). Naddwyd ogof o’r defnydd hwn gan y môr tan iddo gyrraedd at graig galetach. Yna erydwyd y clogfaen tuag i fyny gan bwysedd y môr yng nghefn yr ogof nes ffurfio hollt a gyrhaeddodd wyneb y tir uwchlaw – gan ffurfio chwyth-dwll.
Pan fyddai’r llanw i mewn roedd y tonnau’n gwthio aer trwy’r twll ac roedd sŵn y môr i’w glywed o’r agen ar yr wyneb. Yn ôl pob sôn roedd ffermwyr lleol yn defnyddio hyn fel cloc tywydd; pan roedd y sŵn o’r twll i’w glywed ‘o bellter’ roedd y tywydd yn debygol o fod yn wlyb a stormus, ond petai rhaid i ymwelwyr chwilio am yr agen cyn clywed y sŵn, byddai’n hindda.
Yn ystod oes Fictoria, Thunder Hole oedd un enw ar Twll Twrw; bras amcan o’r enw Cymraeg!
Mae’r rhan hon o’r arfordir yn dioddef o erydiad arfordirol a achosodd i’r tir o amgylch y twll chwalu yn y pen draw. Mae’r enw Twll Twrw wedi goroesi’r nodwedd ddaearegol.
Profodd criw o ymwelwyr effaith yr erydu wrth ymweld â’r ogof yn 1906. Bu rhaid iddyn nhw ruthro allan pan glywyd cerrig yn disgyn uwch eu pennau. Credir bod rhai o’r cerrig a ddisgynnodd yn mesur dwy droedfedd sgwâr ( c 2,000cm sgwâr).
Diolch i Michael Statham, o Fforwm Cerrig Cymru, ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Troednodiadau: Daeareg ardal Twll Twrw
Mae’r creigiau aml-haenog sydd yma yn cynnwys clogfeini a gafodd eu gwaddodu yma gan rewlifiant yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf. Y tu ôl iddyn nhw ceir tywodfeini a cherrig llaid. Dyma Ffurfiant Trefechan. Mae’r rhain yn rhan o gyfres o greigiau o‘r cyfnod Siluriaidd a elwir yn Grŵp Grits Aberystwyth.