Alltwen, Tanybwlch, Aberystwyth

button-theme-evacO draeth Tanybwlch mae Llwybr Arfordir Cymru yn ein tywys i ben Alltwen. Mae ei chopa gribog (dros 130 metr yn uwch na lefel y môr) a’r graig uchel yn dirnod amlwg tua’r de o harbwr Aberystwyth a Phendinas. Paentiwyd y dyfrlliw a ddangosir yma trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1868 ac mae’n dangos Alltwen y tu hwnt i draeth Tanybwlch.

Painting of Tanybwlch and Alltwen in 1868Cloddiwyd cerrig yn Alltwen er mwyn gwneud gwelliannau i’r harbwr, gan gynnwys adeiladu Pier Ystwyth yn y 1830au. Cludwyd y cerrig ar dramffordd (rheilffordd syml) a redai ar hyd ymyl y traeth.

Ar ochr arall yr afon bu rheilffordd prif-linell ar un adeg. Agorwyd honno yn 1867 gan y Manchester and Milford Railway Co. Wedi gadael Aberystwyth dringai honno ar hyd Cwm Ystwyth i Drawscoed ac ymlaen i Lanbedr Pont Steffan a Chaerfyrddin. Cafodd ei chau yn 1964. Mae rhan o lwybr y rheilffordd gynt, rhwng Aberysytwyth a Rhydyfelin, yn llwybr ar gyfer cerddwyr a beicwyr erbyn hyn.

Mae’r hen lun yn dangos y tŷ a enwyd Tanybwlch fel roedd pan gafodd ei adeiladu c. 1827 ar safle hen ffermdy. Am ysbaid bu’n gartref i’r Cadfridog Lewis Davies a ymddeolodd wedi gyrfa nodedig yn y fyddin ond a fu farw yn fuan wedi adeiladu’r tŷ.

Helaethwyd y tŷ yn y 1890au gan ddisgynydd iddo sef Matthew Lewis Vaughan Davies. Bu ef ar un adeg yn aelod seneddol dros Geredigion.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac am gyfnod wedi hynny dyma oedd safle Ysbyty Twymyn Argyfwng Tanybwlch. Daeth miloedd o blant yn faciwîs i’r ardal o Lerpwl a dinasoedd eraill i ffoi rhag ymosodiadau gan y Luftwaffe.  Yn 1940 yn unig, cafodd 339 o “achosion faciwî” eu trin yn yr ysbyty. Bu farw pedwar plentyn o‘r pas ac un o difftheria neu’r clefyd coch.

Yn sgil y faciwîs lledodd heintiau ar y croen sef crachdardd (impetigo) a’r crafu gwyllt (scabies) yn yr ardal, clefydau a oedd yn anghyffredin iawn yma. Agorwyd dwy ysbyty argyfwng ar gyfer trin y croen yn Sir Aberteifi yn 1941.

Yn 1979 dychwelodd dros ddeg ar hugain o’r faciwîs i Aberystwyth ar gyfer aduniad gyda’u gwesteiwyr yn ystod y rhyfel. Daeth rhai ohonyn nhw i Danybwlch i weld lle y buon nhw’n glaf dan difftheria.

Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Gweld map y lleoliad

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button